John J. Pershing | |
---|---|
Y Cadfridog John J. Pershing yn ei wisg filwrol, gyda'i fedalau o ymgyrchoedd yr Indiaid, Sbaen, a'r Philipinau ar ei frest. | |
Llais | Pershing - Address from France.ogg |
Ganwyd | 13 Medi 1860 Laclede |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1948 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, cyfreithiwr |
Swydd | Chief of Staff of the United States Army, Chief of Staff of the United States Army |
Cyflogwr | |
Priod | Helen Frances Warren, Micheline Resco |
Plant | Warren Pershing |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Gwobr Pulitzer am Hanes, Grand Cross of the Order of the Bath, Silver Star, Medal Aur y Gyngres, Urdd Mihangel Ddewr, Knight Commander of the Military Order of Savoy, Distinguished Service Cross, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Medal Victoria, Urdd Tywysog Danilo I, Urdd y Gwaredwr, Uwch Cordon Urdd Leopold, Urdd dros ryddid, Médaille militaire, Croix de guerre, Grand cross of the Order of the White Lion, Czechoslovak War Cross 1918, Military Order of Italy, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Urdd yr Haul, Urdd y Wawr, Urdd Seren Karađorđe, Marchog Urdd Polonia Restituta, Commander of the Order of Military Virtue, Silver Cross of the Virtuti Militari |
llofnod | |
Cadfridog o'r Unol Daleithiau oedd John Joseph Pershing (13 Medi 1860 – 15 Gorffennaf 1948) a ddyrchafwyd yn Gadfridog y Byddinoedd, y rheng uchaf erioed ym Myddin yr Unol Daleithiau. Efe oedd cadlywydd y Llu Alldeithiol Americanaidd (AEF)—y fyddin Americanaidd yn Ewrop—yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ganed ef ym Missouri, a graddiodd o Academi Filwrol West Point ym 1886. Brwydrodd yn erbyn llwythau'r Americanwyr Brodorol yn Ne Orllewin yr Unol Daleithiau o 1886 i 1898. Yn y cyfnod hwnnw, gweithiodd hefyd yn gyfarwyddwr milwrol ym Mhrifysgol Nebraska o 1891 i 1895, ac yno enillodd radd yn y gyfraith. Gwasanaethodd yn lefftenant ar 10fed Gatrawd y Marchfilwyr, uned o Americanwyr Affricanaidd, ac o'r herwydd enillodd y llysenw "Black Jack". Brwydrodd yn yr ymgyrch ger Santiago, Ciwba, yn y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd (1898). Treuliodd bedair mlynedd yn y Philipinau, a llwyddodd i ostegu Gwrthryfel y Moro. Cafodd ei gefnogi ar gyfer swydd brigadydd gan yr Arlywydd Theodore Roosevelt, a fe'i dyrchafwyd i'r rheng honno ym 1906. Dychwelodd i'r Philipinau hyd at 1913.
Arweiniodd "yr Alldaith Gosb" i chwalu ysbeilwyr Pancho Villa ym 1916, yn ystod Chwyldro Mecsico. Wedi i'r Unol Daleithiau ymuno â'r Rhyfel Mawr yn Ewrop, ar ochr y Cynghreiriaid, ym 1917, penodwyd Pershing i reoli'r Llu Alldeithiol Americanaidd ar Ffrynt y Gorllewin. Gwasanaethodd yn Bennaeth Staff y Fyddin o 1921 i 1924. Ysgrifennodd sawl llyfr am yr AEF, gan gynnwys ei hunangofiant, My Experiences in the World War (1935), a enillodd iddo Wobr Pulitzer.[1]