John Mytton | |
---|---|
Ganwyd | 30 Medi 1796 Neuadd Halston, Croesoswallt |
Bu farw | 29 Mawrth 1834 Southwark |
Man preswyl | Neuadd Halston, Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, tirfeddiannwr, joci, gamblwr |
Swydd | Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, High Sheriff of Shropshire, Siryf Sir Feirionnydd |
Tad | John Mytton |
Plant | Barbara Augusta Norah Mytton |
Chwaraeon |
Roedd John (Jack) Mytton (30 Medi 1796 - 29 Mawrth 1834) yn dirfeddiannwr, heliwr a gŵr afradus Eingl-gymreig.[1]
Ganwyd Mytton yn Halston, Swydd Amwythig yn unig blentyn i John Mytton a Sarah Harriet Mostyn-Owen ei wraig. Roedd y teulu yn berchen ystadau yn Swydd Amwythig, Sir Drefaldwyn ac ardal Mawddwy o Sir Feirionnydd. Yn 2 flwydd oed collodd ei dad.[2]
Cafodd Mytton ei addysgu, yn gyntaf, yn Ysgol Westminster gan ddod yn ddisgybl yno ym 1808. Tra yn Westminster roedd yn cael lwfans o £400 y flwyddyn (gwerth llafur o £365,500 yn 2020 [3]), ond llwyddodd i afradu dwbl ei lwfans. Cafodd ei ddiarddel o Westminster ym 1811. Aeth i Ysgol Harrow wedyn gan gael ei ddiarddel ym 1813. Cafodd ei addysgu wedyn gan athro preifat, trefniant daeth i ben ar ôl i Mytton ymosod yn gorfforol ar yr athro a'i daro'n di drugaredd.
Er gwaethaf ei yrfa academaidd liwgar, cafodd Mytton fynediad i Goleg y Drindod, Caergrawnt. Ymaelododd ym mis Ionawr 1816 ond, yn ôl Alumni Cantabrigienses, mae'n amheus iddo gymryd ei le.[4] Er bod hanesion llawr gwlad ei fod wedi mynd i'r coleg gyda 339 galwyn o bort i'w gynorthwyo i astudio.[5]
Yn 18 mlwydd oed aeth ar y daith fawr trwy gyfandir Ewrop am ddwy flynedd. Wedi dychwelyd o'r daith ymunodd â 7fed Catrawd yr Hwsariaid fel cornet (safle'r un radd ag ail is-gapten, bellach). Gwasanaethodd gyda'i gatrawd yn Ffrainc am flwyddyn cyn ymddiswyddo o'i gomisiwn. Parhaodd a chysylltiad â'r fyddin am weddill ei oes gan wasanaethu fel capten ac, o 1823, fel cadfridog ym Marchoglu Iwmyn Gogledd Swydd yr Amwythig.
Wedi ymadael a'r Hwsariaid roedd wedi cyrraedd 21 mlwydd oed, yr oedran a ystyriwyd, ar y pryd, bod plentyn yn troi'n oedolyn. Cafodd etifeddu, gan hynny, ystadau ei ddiweddar dad a chychwyn ar yrfa fel sgweier. Roedd ei wasanaeth cyhoeddus fel sgweier yn cynnwys bod yn Uchel Siryf Meirionnydd ym 1821 ac Uchel Siryf Swydd Amwythig ym 1823. Ym 1819 safodd dros y Torïaid mewn isetholiad ar gyfer etholaeth yr Amwythig. Rhoddodd £10 i bawb a addawodd bleidlais iddo a chostiodd yr ymgyrch £10,000 iddo. Llwyddodd i gael ei ethol.[5] Dim ond unwaith mynychodd y senedd gan aros yn y siambr am hanner awr. Penderfynodd beidio sefyll yn etholiad cyffredinol 1820. Gwasanaethodd fel maer Croesoswallt am y flwyddyn 1824 - 1825. Safodd eto fel ymgeisydd seneddol, ar ochr y Whigiaid ym 1832 ond daeth yn olaf o chwe ymgeisydd.
Roedd Mytton yn hoff iawn o geffylau ac yn ymddiddori lawer yn y campau oedd yn cynnwys ceffylau megis hela a rasio. Prynodd geffyl o'r enw Euphrates, a oedd eisoes yn enillydd cyson, a'i roi i gystadlu yn Ras y Cwpan Aur yng Nghaerlwytgoed ym 1825, enillodd y ras. Cafodd portread o'r ceffyl, a gomisiynwyd gan Mytton gan yr arlunydd William Webb, ei arddangos yn yr Academi Frenhinol yr un flwyddyn. Daeth Mytton hefyd yn gymeriad adnabyddus ar Gae Ras Croesoswallt, trac rasio lleol oedd ag enw drwg iddi. Roedd hefyd yn cadw stabl rasio fawr, ond wnaeth e byth fridio ceffyl da.
Roedd Mytton wedi hela llwynogod gyda'i chnud ei hun ers yn ddeg oed. Byddai'n hela mewn pob tywydd. Ei gêr gaeaf arferol oedd siaced ysgafn, esgidiau tenau, trowsus lliain a hosanau sidan, ond ym merw'r helfa fe fyddai weithiau dynnu ei ddillad a pharhau â'r helfa'n noeth, hyd yn oed trwy ddrifftiau eira ac afonydd yn llawn llifeiriant. Parhaodd i hela hefyd ar ôl syrthio oddi ar ei geffyl a thorri esgyrn. Roedd ganddo gwpwrdd dillad hela a oedd yn cynnwys 150 pâr o lodrau hela, 700 pâr o esgidiau hela wedi'u gwneud â llaw, 1,000 o hetiau a rhyw 3,000 o grysau.
Roedd Mytton yn cadw nifer o anifeiliaid anwes, gan gynnwys tua 2,000 o gŵn. Cafodd ei ffefrynnau yn eu plith eu bwydo ar stêc a siampên. Roedd ei hoff geffyl, Baronet, yn cael crwydro'n rhydd y tu mewn i Neuadd Halston ac roedd yn gorwedd o flaen y tân gyda Mytton.[6]
Yn ogystal â hela llwynogod byddai Mytton hefyd yn hela llygod ffyrnig gyda'i weision stabl ac yn hela hwyaid yn noethlymun dros byllau dwr rhewedig. Pan fyddai yn ymweld â'i ystâd yn Ninas Mawddwy byddai'n cynnig symiau o hanner coron (gwerth £100 yn 2020 [3]) i hanner gini (gwerth £250 bellach [3]) i'r plentyn a rowliai gyntaf o ben Moel Dinas i'r gwaelod.[1] Roedd hefyd yn rhoi arian i blant am regi.[7]
Roedd gan Mytton broblem fawr efo'r ddiod gadarn. Fel glaslanc yn ei arddegau cynnar roedd ei gymdogion wedi ei lysenwi "y Brenin Picl". Erbyn ei ugeiniau roedd yn yfed o bedair i chwe photel o bort y dydd, gan ddechrau yfed yn y bore wrth eillio. Yn y pen draw roedd yn byw mewn 'cyflwr o feddwdod cyson'. Roedd ei feddwdod yn arwain at ymddygiad od a pheryglus. Ar un achlysur penderfynodd marchogaeth arth trwy ei dŷ ac ar achlysur arall rhoddodd ei ddillad nos ar dân, wrth wisgo nhw er mwyn brawychu ei hun i gael gwared â'r igian.[8]
Roedd yn ddi-hid am beryglon wrth farchogaeth ei geffylau ac yn gwneud pethau peryglus yn fwriadol. Dywedir iddo, ym 1826, marchogaeth ceffyl i mewn i westy yn Leamington Spa, i fyny'r grisiau mawreddog ac i'r balconi, lle neidiodd dros y bwytai yn y bwyty islaw, ac allan trwy'r ffenest i'r ffordd. Mae sôn amdano yn carlamu ar gyflymder dros gwningar i weld a fyddai ei geffyl yn baglu, fe wnaeth gan rolio drosto. Ceisiodd cael ceffyl oedd yn tynnu cerbyd i neidio dros dollborth i weld os byddai'r cerbyd yn mynd drosodd hefyd.[9]
Roedd Mytton yn afradus efo arian. Er iddo etifeddu ystâd oedd gwerth ffortiwn enfawr ac yn ildio ffortiwn yn flynyddoedd gwariodd mwy nag oedd yn ennill. Roedd yn gwrthod pob cyngor ar sut i dorri yn ôl ar ei wario. Roedd yn cael yr arian ychwanegol trwy ddefnyddio ei eiddo fel ernes. Roedd ei asiant wedi cyfrifo pe gallai ond lleihau ei wariant i £6,000 y flwyddyn (£5 miliwn heddiw [3]) am chwe blynedd na fyddai’n rhaid gwerthu ei ystâd. Ymateb Mytton oedd na fyddai'n dymuno byw ar gyn lleied. Ym 1831 gwerthodd ei ystâd yn Ninas Mawddwy i John Bird, a ffodd i Calais i osgoi ei gredydwyr.
Bu Mytton yn briod ddwywaith. Priododd a'i wraig gyntaf, Harriet Emma Jones merch Syr Thomas Tyrwhitt Jones ym 1818. Cawsant un ferch cyn i Harriet marw ym 1820. Ym 1821 priododd am yr ail waith. Ei ail wraig oedd Caroline Mallet, merch Thomas Giffard, o Chillington, Swydd Stafford, bu iddynt ferch a phedwar mab.[10] Priododd Barbara Augusta, y ferch hynaf o'r ail briodas a'r gwleidydd Cymreig Poulett George Henry Somerset [11].
Wedi dychwelyd i wledydd Prydain o Ffrainc ym 1834 cafodd Mytton ei arestio am ei ddyledion a'i garcharu yng Ngharchar dyledwyr Mainc y Brenin yn Southwark, Llundain. Bu farw yno o delirium tremens, afiechyd sy'n cael ei achosi pan fo alcoholig yn cael ei amddifadu o alcohol. Roedd yn 37 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion yng nghladdgell capel preifat ei deulu yn Helston.[2]
Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Charles James Apperley (Nimrod) Memoirs of the life of ... John Mytton, by Nimrod (1837) [8]