John Philip Sousa | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Tachwedd 1854 ![]() Washington ![]() |
Bu farw | 6 Mawrth 1932 ![]() o trawiad ar y galon ![]() Reading ![]() |
Man preswyl | Washington, John Philip Sousa House ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, person milwrol, cyfansoddwr, sport shooter, llenor, arweinydd band, cyfarwyddwr ![]() |
Adnabyddus am | The Stars and Stripes Forever ![]() |
Arddull | opera, military band ![]() |
Priod | Jane Bellis Sousa ![]() |
Plant | John Philip Sousa II ![]() |
Gwobr/au | Order of Public Instruction, Royal Victorian Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hall of Fame Americanwyr Mawr ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cyfansoddwr ac arweinydd cerddorfa o'r Unol Daleithiau oedd John Philip Sousa (/ˈsuːsə/;[1] 6 Tachwedd 1854 – 6 Mawrth 1932). Mae'n enwog am ei ymdeithganau milwrol a gwladgarol, ac fe'i elwir yn aml yn "Frenin yr Ymdeithganau" (Saesneg: The March King).[2]
Roedd yn fab i Bortiwgead ac Almaenes a chafodd ei eni a'i fagu yn Washington, D.C. Dysgodd y fiolin a damcaniaeth cerddoriaeth pan oedd yn blentyn, ac yn ei arddegau dysgodd y trombôn a dechreuodd arwain a chyfansoddi. Ymunodd â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau ym 1868 fel prentis ym Mand y Môr-filwyr, ac o 1880 hyd 1892 roedd yn arweinydd y seindorf hon.[3] Ffurfiodd fand ei hunan ym 1892 a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop (1900–05) ac yn hwyrach y byd (1910–11) yn perfformio cerddoriaeth filwrol a symffonig.[4]
Cyfansoddodd 136 o ymdeithganau milwrol gan gynnwys "The Washington Post" (1889), "The Liberty Bell" (1893), a "The Stars and Stripes Forever" (1897), a "Semper Fidelis" (1888) sydd yn ymdeithgan swyddogol Corfflu'r Môr-filwyr. Cyfansoddodd 11 o operetâu rhwng 1879 a 1915, gan gynnwys El Capitan (1896), The Bride Elect (1897), a The Free Lance (1906). Ysgrifennodd gasgliad o ganeuon o nifer o wledydd dan y teitl National, Patriotic and Typical Airs of All Lands (1890) ar gyfer Adran y Llynges. Yn y 1890au datblygodd yr offeryn a elwir heddiw yn sousaffon.[3]
Ymunodd Sousa â Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth yn bennaeth y ganolfan hyfforddi cerddorol yng Nghanolfan Lyngesol y Llynnoedd Mawr yn Illinois. Ym 1928 cyhoeddodd ei hunangofiant, Marching Along.[3] Cyflwynodd ei gyfansoddiad "The Royal Welch Fusiliers" i'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol ym 1930 i nodi cysylltiad y gatrawd honno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, perthynas a ffurfiwyd yn ystod Gwrthryfel y Bocswyr ym 1900.[5] Bu farw Sousa yn 77 oed yn Reading, Pennsylvania, o drawiad ar y galon.[6]