Jonathan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1988 Solihull |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 186 centimetr |
Pwysau | 103 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, ASM Clermont Auvergne, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Y Scarlets |
Safle | Canolwr |
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, yw Jonathan Davies (ganwyd 5 Ebrill 1988). Roedd yn chwarae yn safle'r canolwr dros dîm Cymru a chlwb Scarlets Llanelli.
Ganwyd Jonathan Davies yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond ymfudodd ei deulu i Fancyfelin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn ifanc. Roedd ei rieni yn rhedeg tafarn y Fox and Hounds pub ym Mancyfelin a felly cafodd y llysenw 'Fox'.[1]
Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf, yn Hendy-gwyn ar Daf, cyn cychwyn cwrs Ffitrwydd a Chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.[2]
Cychwynodd Jonathan Davies ei yrfa fel aelod ifanc o academi y Scarlets. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Glwb Rygbi Llanelli cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth y Sgarlets yn 2006. Sgoriodd ei gais cyntaf i'r tîm yn erbyn Connacht ym Medi 2007. Gadawodd y Sgarlets ar ddiwedd tymor 2024 wedi sgorio 55 o geisiau gan ymddangos 209 o weithiau i'r tîm.[3]
Cynhwyswyd Jonathan Davies yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America yn 2009. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym Mai 2009. Sgoriodd ddau gais yn erbyn Unol Daleithiau America.
Chwaraeodd Davies fel canolwr allanol Cymru i bartneru gyda Jamie Roberts yn safle'r canolwr mewnol yn Nhachwedd 2009 yn erbyn yr Ariannin. Yn Ionawr 2010, enwyd Davies yn ngharfan Cymru ar gyfer Pencapwriaeth y Chwe Gwlad 2010, ond ni chafodd ei ddewis i chwarae yn unrhyw un o'r gemau.
Ffurfiodd Davies bartneriaeth cryf gyda'r maswr James Hook a'r canolwr Jamie Roberts ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[4]
Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi proffesiynol ar 13 Hydref 2024. Yn ystod ei yrfa enillodd 96 o gapiau i Gymru a chafodd ei ddewis ddwywaith i fynd ar deithiau'r Llewod.[5]
Chwaraeodd Davies dros Gymru ym mhob un o'u saith gem yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2011, Seland Newydd. Sgoriodd gyfanswm o dri cais yn ystod y gystadleuaeth, yn erbyn Namibia, Ffiji ac Iwerddon.
Ar wahan i chwarae rygbi, mae Jonathan Davies yn mwynhau caiacio a chwarae criced.[2]
Fe'i urddwyd i'r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 gan ddewis yr enw barddol 'Jon Cadno'.[6]