José López Portillo | |
---|---|
Ganwyd | José Guillermo Abel López Portillo y Pacheco 16 Mehefin 1920 Dinas Mecsico |
Bu farw | 17 Chwefror 2004 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Addysg | Doctor of Sciences |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, academydd, llenor |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Mexico presidential candidate for the Revolutionary Institutional Party, Secretary of Finance and Public Credit |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
Tad | José López Portillo y Weber |
Priod | Carmen Romano, Sasha Montenegro |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd José Martí, Urdd Brenhinol y Seraffim, Commander of Order of Manuel Amador Guerrero, honorary doctor of the University of Brasília, Coler Urdd Siarl III, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Urdd Llew Aur Llinach Nassau, Gwobr 'Collar de la Orden Mexicana del Águila Azteca', Urdd Boyacá, Honorary doctorate from the University of Paris 1 Pantheon-Sorbonne |
llofnod | |
Gwleidydd a chyfreithiwr o Fecsico oedd José López Portillo y Pacheco (16 Mehefin 1920 – 17 Chwefror 2004) a oedd yn Arlywydd Mecsico o 1976 i 1982. Efe oedd yr unig ymgeisydd yn etholiad arlywyddol 1976, a hynny ar ran y Partido Revolucionario Institucional (PRI).
López Portillo oedd yr olaf o'r arlywyddion "Cenedlaetholgar" o ran polisi economaidd Mecsico.[1] Yn ystod ei arlywyddiaeth ffynodd yr economi ar sail y diwydiant olew, cyn i argyfwng dyled daro'r wlad yn drom. Noder ei lywodraeth hefyd gan lygredigaeth, lladrata, a ffafriaeth at berthnasau a chyfeillion.[2][3]
Wedi iddo adael ei swydd, yn ystod arlywyddiaeth ei olynydd Miguel de la Madrid, cafodd nifer o swyddogion llywodraethol eu cyhuddo o lygredigaeth a'u herlyn. Tybiai nifer i López Portillo ei hun fod yn euog o droseddau tebyg, ond na chafodd y gyfraith ei roi arno hyd ddiwedd ei oes.[4]
Ganwyd José López Portillo yn Ninas Mecsico. Astudiodd yn Universidad Nacional Autónoma de México (UNAM) a Phrifysgol Tsile.
Fideos allanol | |
---|---|
Yr Arlywydd López Portillo yn gwneud ei addewid drwg-enwog i amddiffyn y peso como perro. |
Dilynai polisïau ceidwadol gan López Portillo o gymharu â'i ragflaenydd, Echeverría, er iddo barhau â'r arfer o genedlaetholdeb economaidd. Rhoddwyd llai o bwyslais ar amaeth ac ailddosbarthu tir, a chanolbwyntiodd y llywodraeth ar ddatblygu'r diwydiannau olew a nwy naturiol ac atynnu buddsoddiad tramor. Yn ystod arlywyddiaeth López Portillo, darganfyddwyd cronfeydd petroliwm yn Veracruz a Tabasco gan ddarparu elw mawr i Pemex, y cwmni olew cenedlaethol, drwy allforion. Rhuthrodd y llywodraeth i wneud yn fawr o'r arian annisgwyl, trwy wariant cyhoeddus ar raddfa eang a benthyg rhagor o arian o dramor. Er i'r rhaglen hon sbarduno twf economaidd ym Mecsico, cafodd y cyfoeth ei wastraffu gan gwmnïau cyhoeddus a'i ladrata gan swyddogion y llywodraeth a'r undebau llafur. Pan gwympodd y pris petroliwm yn 1981, bu enciliad cyfalaf o'r wlad a methodd y llywodraeth i dalu'r ddyled dramor yn Awst 1982. Er i López Portillo addo y byddai'n amddiffyn y peso como perro (fel ci), cafodd y peso ei ddibrisio 40 y cant ganddo.[5]
Yn 1977 adferwyd cysylltiadau diplomyddol rhwng Mecsico a Sbaen yn sgil marwolaeth Francisco Franco.
Daeth yr argyfwng economaidd a llygredigaeth ei lywodraeth anghold i López Portillo, a chymaint oedd ei amhoblogrwydd bu'n rhaid iddo ffoi o Fecsico. Dychwelodd yn niwedd y 1980au, a chyhoeddodd ei hunangofiant Mis tiempos: Biografía y testimonio político (1988).