June Whitfield | |
---|---|
Ganwyd | June Rosemary Whitfield 11 Tachwedd 1925 Streatham |
Bu farw | 28 Rhagfyr 2018 Llundain |
Man preswyl | The Parish Church of All Hallows, Tillington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, hunangofiannydd |
Tad | John Herbert Whitfield |
Priod | Timothy John Aitchison |
Plant | Suzy Aitchison |
Gwobr/au | CBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, OBE |
Actores o Loegr oedd y Fonesig June Rosemary Whitfield, CBE (11 Tachwedd 1925 – 29 Rhagfyr 2018). Gweithiodd fel actores ar y radio ac mewn cyfresi comedi ar y teledu ers y 1950au.
Cafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yn y comedi radio Take It From Here, ac arweiniodd hyn at waith ar y teledu, gan gynnwys ymddangosiadau gyda Tony Hancock trwy gydol ei yrfa deledu ef. Ym 1966, chwaraeodd Whitfield ei rôl gyntaf mewn comedi sefyllfa ar gyfer y teledu, yn Beggar My Neighbour a pharhaodd hyn am ddwy flynedd. Serennodd hefyd mewn nifer o'r ffilmiau Carry On.
Ym 1968, dechreuodd June Whitfield a Terry Scott eu partneriaeth hir-hoedlog a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda'u rôlau fel gŵr a gwraig yn Happy Ever After (1974–78) a Terry and June (1979–87). O 1992 tan 2003, actiodd Whitfield yng nghomedi sefyllfa Jennifer Saunders Absolutely Fabulous ac roedd yn chwarae cymeriad rheolaidd yn Last of the Summer Wine yn ogystal â chymeriad rheolaidd yn The Green Green Grass.
Yn 89 oed ymddangosodd yn EastEnders fel lleian. Fe'i gwnaed yn Fonesig yn 92 oed, gan dderbyn yr anrhydedd ym Mhalas Buckingham.[1]