Karl Renner | |
---|---|
Ganwyd | Carl Renner 14 Rhagfyr 1870 Dolní Dunajovice |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1950 Fienna |
Dinasyddiaeth | Cisleithania, Awstria, yr Almaen Natsïaidd |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llyfrgellydd, diplomydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr |
Swydd | Arlywydd Awstria, Federal Minister of Foreign Affairs of Austria, Canghellor Ffederal Awstria, Canghellor Ffederal Awstria, President of the National Council of Austria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, Member of Abgeordnetenhaus, Aelod o Senedd Ranbarthol Vienna, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria |
Priod | Luise Renner |
Plant | Leopoldine Deutsch-Renner |
Gwobr/au | Doethor Anrhydeddus Prifysgol Fienna |
Gwleidydd o Awstria oedd Karl Renner (14 Rhagfyr 1870 – 31 Rhagfyr 1950) a fu'n Ganghellor Awstria o 1918 i 1920 ac ym 1945, ac yn Arlywydd Awstria o 1945 i 1950.
Ganed yn Unter-Tannowitz (bellach Dolní Dunajovice, y Weriniaeth Tsiec), Teyrnas Bohemia, Awstria-Hwngari, i deulu o werinwyr. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Fienna ac ymunodd ag adain gymedrol Plaid Ddemocrataidd Sosialaidd Awstria (SPÖ). Etholwyd yn ddirprwy i'r Reichsrat (deddfwrfa Cisleithania) ym 1907.[1]
Yn sgil cwymp Awstria-Hwngari ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a diddymu'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, daeth Renner yn ganghellor yr ôl-weriniaeth Almaeneg Awstria ac yna, yn sgil Cytundeb Saint-Germain-en-Laye (10 Medi 1919), Gweriniaeth Awstria. Yn y cyfnod o 30 Hydref 1918 i 7 Gorffennaf 1920, arweiniodd y Canghellor Renner dair llywodraeth glymblaid, a gwasanaethodd hefyd yn swydd y gweinidog tramor o 26 Gorffennaf 1919 i 22 Hydref 1920. Yn y trafodaethau yn sgil y rhyfel, methodd atal colledion tiriogaethol sylweddol i'r Eidal, Tsiecoslofacia, ac Iwgoslafia. Dadleuodd dros uno Awstria â'r Almaen i ddechrau, ond rhoes Cytundeb Saint-Germain derfyn ar y cynllun hwnnw. Cychwynnodd Renner felly ar bolisi tramor o niwtraliaeth, cydymffurfio â thelerau'r cytundebau, ac ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.[1]
Yn y 1920au, Renner oedd arweinydd yr adain dde yn yr SPÖ. Gwasanaethodd yn llywydd ar y Nationalrat (is-siambr y senedd) o 1930 i 1933. Ym 1938, lleisiodd ei gefnogaeth i'r Anschluss, pan gyfeddianwyd Awstria gan yr Almaen Natsïaidd. Yn sgil cipio Fienna gan y Fyddin Goch yn Ebrill 1945, cydweithiodd Renner â swyddogion o'r Undeb Sofietaidd i ailsefydlu'r llywodraeth yn Awstria. Rhoddwyd iddo ganiatâd i ffurfio llywodraeth dros dro, ac ar 27 Ebrill 1945 penodwyd Renner yn Ganghellor Awstria unwaith eto a datganodd annibyniaeth ei wlad oddi ar yr Almaen. Ar 20 Rhagfyr 1945, etholwyd Renner yn Arlywydd Awstria gan y Reichsrat newydd, a bu yn y swydd honno hyd at ddiwedd ei oes. Cyhoeddodd ei hunangofiant, An der Wende zweier Zeiten, ym 1946. Bu farw yn Doebling yn 80 oed.[1]