Laura Ashley

Laura Ashley
GanwydLaura Mountney Edit this on Wikidata
7 Medi 1925 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw17 Medi 1985 Edit this on Wikidata
Coventry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson busnes, dylunydd ffasiwn, dylunydd tecstiliau, artist tecstiliau Edit this on Wikidata
PriodBernard Ashley Edit this on Wikidata
PlantEmma M. Ashley, David Nicholas Ashley Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Dylunydd ffasiwn o Gymru oedd Laura Ashley CBE (7 Medi 192517 Medi 1985). Daeth ei henw yn adnabyddus ym mhob aelwyd ar gryfder ei gwaith fel dylunydd a chynhyrchydd nifer o ddefnyddiau lliwgar a dodrefn y cartref.

Ganwyd Laura Mountney yn Station Terrace, Dowlais, Merthyr Tudful. Magwyd mewn teulu Pabyddol a oedd yn gweithio i'r wasanaeth sifil. Mynychodd gapel Cymraeg Hebron yn Dowlais, er nad oedd yn deall yr iaith, roedd yn ei charu, yn arbennig y canu. Addysgwyd hi yn Ysgol Marshall, Merthyr Tydfil hyd 1932, pan cafodd ei hanfon i Ysgol Elmwood, Croydon. Cafodd ei anfof yn ôl i Gymru fel faciwi, ac ar ôl mynychu Ysgol Ysgrifenyddol Aberdâr, gorffenodd ei haddysg yn 16 oed. Gwasanaethodd yn y Gwasanaeth Llynges Brenhinol Merched yn yr Ail Ryfel Byd, ac o 1945 hyd 1952 roedd yn ysgrifenyddes ar gyfer y Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched yn Llundain. Cyfarfodd â Bernard Ashley, a ddaeth yn Syr Bernard yn ddiweddarach, mewn clwb ieuenctid yn Wallington, a phriododd ef yn 1949.[1]

Tra oedd hi'n gweithio fel ysgrifenyddes ac yn magu ei dau blentyn cyntaf, dyluniodd napcynnau, matiau bwrdd a llieiniau yn rhan amser, ac argraffodd Syr Bernard rhain ar beiriant roedd wedi ei ddylunio ei hun mewn fflat atig yn Pimlico, Llundain.[2]

Buddsoddodd y cwpl £10 mewn pren ar gyfer ffram y sgrîn, llifynnau a sawl llathen o liain. Daeth ysbrydoliaeth Laura i dechrau cynhyrchu defnydd wedi ei argraffu o arddangosfa Sefydliad y Merched o grefftau llaw traddodiadol yn Amgueddfa Victoria ac Albert. Pan ddechreuodd Laura chwilio am ddarnau bychain o ddefnydd Fictoraidd ar gyfer cwiltio, fe chanfu nad oedd y fath beth yn bodoli. Gwelodd y cyfle i'w gyflenwi, a dechreuodd argraffu sgarffiau-pen mewn steil Fictoraidd yn 1953.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.