Leon Britton

Leon Britton
GanwydLeon James Britton Edit this on Wikidata
16 Medi 1982 Edit this on Wikidata
Merton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra165 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau63 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auSheffield United F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, West Ham United F.C., Arsenal F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Dinas Abertawe, tîm pêl-droed dan-16 Lloegr Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonLloegr Edit this on Wikidata

Cyn bêl-droediwr a hyfforddwr proffesiynol yw  Leon James Britton (ganwyd 16 Medi 1982). Treuliodd rhan helaeth o'i yrfa fel chwaraewr canol cae i Glwb Pêl-droed Abertawe. Wedi iddo ymuno ag Abertawe yn 2003 ar gytundeb barhaol, aeth Britton ymlaen i gynrychioli ei glwb dros 500 o weithiau yn yr uwch gynghrair.[1]

Ymunodd Britton â Sheffield United yn Haf 2010, ond ailymunodd ag Abertawe yn Ionawr 2011. Ym mhen dim o amser, daeth Britton yn ffigwr canolog yn ymgyrch lwyddiannus Abertawe i ennill dyrchafiad i'r uwch gynghrair. Mae'n parhau i fod yn un o lond llaw o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli unrhyw glwb ym mhob adran o'r Pyramid Pêl-droed Seisnig, ynghyd â Brett Ormerod, Alan Tate a Garry Monk.

Gyrfa Chwarae

[golygu | golygu cod]

Gyrfa ieuenctid 

[golygu | golygu cod]

Cychwynodd Britton ei yrfa dan hyfforddiant yng Nghlwb Pêl-droed Arsenal yn naw oed. Pan arwyddodd i West Ham United am £400,000 yn 1998, denodd Britton y ffi uchaf a dalwyd erioed am chwaraewr 16 oed.[2] Wedi iddo fethu torri i mewn i dîm cyntaf West Ham, ymunodd ag Abertawe ar fenthyg ym mis Rhagfyr 2002; yno bu'n rhan blaenllaw yn achub y clwb rhag disgyn allan o'r Gyngrair Bêl-droed. Cafodd ei enwi gan y PFA fel "Chwaraewr y flwyddyn y cefnogwyr" ar gyfer y 3ydd Cynghrair yn nhymor 2002–03. Crëwyd digon o argraff ar Brian Flynn, rheolwr Abertawe ar y pryd, iddo arwyddo Britton yn barhaol wedi iddo gael ei ryddhau gan West Ham.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Trust Tribute to Leon Britton". Swans Trust.co.UK.; adalwyd 18 Mai 2018.
  2. "Leon Britton signs three-year Swansea City deal". BBC Sport. 31 Mawrth 2012. Cyrchwyd 29 Mawrth 2014.