Leopold Kohr | |
---|---|
Ganwyd | 5 Hydref 1909 Oberndorf bei Salzburg |
Bu farw | 26 Chwefror 1994 Caerloyw |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | economegydd, athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Breakdown of Nations |
Gwobr/au | Gwobr 'Right Livelihood', Anrhydeddu Aur am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria |
Roedd Leopold Kohr (5 Hydref 1909 – 26 Chwefror 1994) yn economegydd, cyfreithegwr, anarchydd a gwyddonydd gwleidyddol. Fe'i ganwyd yn Oberndorf bei Salzburg, Awstria.
Prif thema ei waith oedd pwysigrwydd maint endidau gwleidyddol ac economaidd; roedd yn credu'n gryf mai'r duedd i greu endidau a gwladwriaethau mawr, grymusgar oedd wrth wraidd llawer o broblemau'r byd, ac mai cynnal endidau llai oedd y ffordd orau i wella'r byd. Buodd weithio ym Mhrifysgol Puerto Rico ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Roedd ganddo berthynas glòs â chenedlaetholdeb Cymreig. Bu farw yng Nghaerloyw, Lloegr.