Cyfarwyddwr | Christophe Barratier |
---|---|
Cynhyrchydd | Arthur Cohn Jacques Perrin Gérard Jugnot |
Ysgrifennwr | Christophe Barratier Philippe Lopes-Curval |
Serennu | Gérard Jugnot François Berléand Jean-Baptiste Maunier Maxence Perrin |
Cerddoriaeth | Bruno Coulais |
Sinematograffeg | Jean-Jacques Bouhon Dominique Gentil Carlo Varini |
Golygydd | Yves Deschamps |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Miramax Films (UDA) |
Dyddiad rhyddhau | 17 Mawrth 2004 |
Amser rhedeg | 96 munud |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Les Choristes yn ffilm Ffrengig o 2004 a ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Christophe Barratier. Mae'r ffilm am athro gerddoriaeth Clément Mathieu, sy'n dod ag ysbryd newydd i ysgol breswyl i ddrwgweithredwyr, Fond de L'Etang trwy greu côr. Mae sêr y ffilm yn cynnwys Gérard Jugnot a Jean-Baptiste Maunier.
Mae’r ffilm yn dechrau yn y presennol. Mae Pierre Morhange, sy’n arweinydd oedrannus byd-enwog o Ffrainc yn awr yn byw yn UDA, yn derbyn galwad o Ffrainc yn rhoi gwybod iddo bod ei fam wedi marw. Mae Morhange yn dychwelyd i Ffrainc i’r angladd. Ac yntau yn ei gartref yn Ffrainc, mae dyn canol oed yn ymddangos wrth y drws. Does dim syniad gan Morhange pwy yw’r dyn hwn, ond mae’r dieithryn yn y pen draw’n datgelu mai Pépinot ydyw, un o hen gyfeillion ysgol Morhange yn ysgol Fond de L'Etang i ddrwgweithredwyr, y büon nhw ynddi yn 1949. Mae Pépinot yn dangos i Morhange ddyddiadur Clément Mathieu, eu harolygydd ac arweinydd answyddogol y côr. Mae Morhange yn mynd ymlaen i ddarllen gweddill y dyddiadur, ac mae’r wir stori'n dechrau.