Lewis Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1920 Llundain |
Bu farw | 23 Chwefror 2018 Monaco |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, llenor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm |
Gwobr/au | CBE |
Cyfarwyddwyr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau o Loegr yw Lewis Gilbert CBE (6 Mawrth 1920 – 23 Chwefror 2018). Ganwyd Gilbert yn Llundain a dechreuodd ei yrfa yn actio mewn ffilmiau tra'r oedd yn blentyn yn y 1920au a'r 1930au. Symudodd ymlaen i ffilmio ffilmiau dogfen ar gyfer yr RAF yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Daeth Gilbert yn enwocach yn y 1950au trwy gyfarwyddo cyfres o ffilmiau llwyddiannus am yr Ail Ryfel Byd.
Ym 1966 cyfarwyddodd Gilbert y ffilm Alfie yn serennu Michael Caine. Dywedodd Gilbert y chynhyrchwyd y ffilm ar gyllid bach iawn, sef yn ei eiriau ei hun "the sort of money Paramount executives normally spend on cigar bills". Enwebwyd y ffilm am bump o Wobrau'r Academi gan gynnwyd y Ffilm Orau. Enwebwyd y ffilm am Golden Globe am y Cyfarwyddwr Gorau ac ail-grëwyd y ffilm yn 2004 yn serennu Jude Law.
Perswadiwyd ef hefyd gan Harry Saltzman ac Albert R. Broccoli i gyfarwyddo'r ffilm You Only Live Twice o'r gyfres James Bond ym 1967. Dychwelodd Gilbert i gyfarwyddo dwy ffilm arall hefyd sef The Spy Who Loved Me ym 1977 a Moonraker ym 1979.
Yn ystod y 1980au, dychwelodd Gilbert i weithio ar ddramâu llai eu maint gyda'r ffilmiau llwyddiannus Educating Rita (1983) a Shirley Valentine (1989).