Llaneugrad

Llaneugrad
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth254, 260 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.32637°N 4.276821°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000016 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4846083467 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Cymuned a phlwyf eglwysig ar yr arfordir yn nwyrain Ynys Môn yw Llaneugrad. Saif rhwng Moelfre a Benllech, ac mae'n cynnwys pentref Marianglas a bae Traeth Bychan.

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 12g, i Sant Eugrad. Claddwyd nifer o'r rhai a foddodd yn llongddrylliad y Royal Charter yn y fynwent. Bu trychineb forwrol arall ger Traeth Bychan yn 1939, pan fethodd y llong danfor Thetis a dychwelyd i'r wyneb.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 273 ac mae'r boblogaeth heddiw yn 254,[1] 260 (2021)[2].

Olion hynafol

[golygu | golygu cod]

Ceir clystyrau cytiau caeedig Caerhoslligwy‎ gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llaneugrad (pob oed) (254)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llaneugrad) (105)
  
42%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llaneugrad) (106)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llaneugrad) (62)
  
48.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, Wikidata Q855531, https://www.ons.gov.uk/census/2011census
  2. "Parish Profiles". dyddiad cyrchiad: 5 Awst 2024. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. cyhoeddwyd fel rhan o'r canlynol: Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.