Enghraifft o'r canlynol | cynulliad cerddorol, band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dod i'r brig | 1985 |
Band dawns arbrofol Gymraeg yw Llwybr Llaethog, sy'n cymysgu genres megis rap, dub, reggae, hip hop a pync yn eu cerddoriaeth.
Sefydlwyd yn Llundain, yn 1985 gan John Griffiths a Kevs Ford. Dylanwadwyd y ddau gan gerddoriaeth reggae a pync y 70au. Wedi sawl cais anllwyddiannus i greu band, cafodd John Griffiths ei ail-ysgogi tra ar wyliau yn Efrog Newydd yn 1984.[1] Roedd grŵp o bobol ifanc mewn clwb nos breakdancing, a seiniau DJ Red Alert wedi gadael argraff cryf arno.
Wedi dychwelyd i Gymru, roedd Griffiths yn benderfynol o briodi cerddoriaeth hip hop a gwleidyddiaeth y chwith eithafol gyda'r iaith Gymraeg. Daeth EP cyntaf Llwybr Llaethog, Dull Di Drais, allan ar label Anhrefn yn 1986.