Loren Dykes | |
---|---|
Ganwyd | 5 Chwefror 1988 Treforys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Cardiff City Ladies F.C., Bristol City W.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Loren Dykes (ganwyd 5 Chwefror 1988) yn chwarae pêl-droed i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a thîm pêl-droed menywod Dinas Bryste. Ar ddechrau ei gyrfa chwaraeodd Dykes ar yr asgell neu fel blaenwr, cyn newid i chwarae fel cefnwr. Mae wedi ennill dros 50 cap dros Gymru.
Aeth Dykes i Ysgol Gymunedol Cwmtawe[1] a chwaraeodd i dîm Llanelli Reds.[2] Symudodd i dîm Menywod Dinas Caerdydd a chwaraeodd i'r Adar Gleision yng Nghwpan Menywod UEFA with The Bluebirds,[3] cyn ymuno ag Academi Bryste yn 2008–09.
Chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Menywod FA fel asgellwr, ac yna yn y rownd derfynol yn 2013 ar ôl ail-hyfforddi fel cefnwr dde.[4] Collodd Bryste y ddwy gêm i Arsenal.
Enillodd Dykes 17 cap dros dîm dan 19 Gymru, a sgoriodd bedair gôl. Chwaraeodd i'r tîm hŷn am y tro cyntaf pan oedd yn 19 oed, pan gollodd Cymru 2-1 i'r Iseldiroedd yn Awst 2007.[5]