Printed Matter, Inc., Pueblo Chico: Land and Lives in Galisteo Since 1814
Priod
Robert Ryman
Gwobr/au
Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Clymblaid Menywod am Gyflawniad Oes mewn Gwaith Celf, Gwobr am Wasanaeth Anrhydeddus yn y Celfyddydau Gweledol, Gwobr CAA am Ragoriaeth, Audrey Irmas Award for Curatorial Excellence
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd[1] ar 14 Ebrill1937. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts,Sefydliad celfyddydau Cain, Prifysgol Efrog newydd a Phrifysgol Efrog Newydd.[2][3][4][5][6]
Roedd Lippard ymhlith yr ysgrifenwyr cyntaf i ddadlau dros 'dadfateroli (dematerialization) ofewn celf gysyniadol ac roedd yn hyrwyddwr cynnar o gelf ffeministaidd. Yn 2019 roedd yn awdur 21 o lyfrau ar gelf gyfoes ac wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau gan feirniaid llenyddol a chymdeithasau celf.
Ganwyd Lucy Lippard yn Ninas Efrog Newydd cyn symud i New Orleans a Charlottesville, Virginia, cyn cofrestru yn Academi Abbot ym 1952. Mynychodd Goleg Smith ac ennill radd B.A. ym 1958. Ym 1962, enillodd radd M.A. mewn hanes celf gan Sefydliad y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Efrog Newydd.
[7][8][9][10]
Wedi gadael coleg, ym 1958, dechreuodd Lippard weithio yn llyfrgell yr Amgueddfa Celf Fodern lle, yn ogystal ag ail-gartrefu'r llyfrgell ar ôl tân, cafodd ei "ffermio allan" i wneud ymchwil i guraduriaeth.[11] Yn MoMA gweithiodd gyda churaduron fel Bill Lieberman, Bill Seitz a Peter Selz. Yn MoMA cyfarfu Lippard â Sol LeWitt a oedd yn gweithio wrth y ddesg nos. Roedd gan John Button, Dan Flavin, Al Held, a Robert Ryman i gyd swyddi yn yr amgueddfa yn ystod yr amser hwn hefyd.[11]
Weather Report. Boulder, C.O.: Boulder Museum of Contemporary Arts. 2007. ISBN0979900700
On the beaten track: tourism, art and place. Efrog Newydd: New Press. 1999. ISBN1565844548
The Lure of the Local: Senses of Place in a Multicentered Society. Efrog Newydd: New Press. 1998. ISBN1565842480
The Pink Glass Swan. Efrog Newydd: New Press, 1995. ISBN1565842138
Mixed blessings: new art in a multicultural America. Efrog Newydd: Pantheon Books. 1990. ISBN0394577590
A different war: Vietnam in art. Bellingham, Wash: Whatcom Museum of History and Art. 1990. ISBN0941104435
Get the message?: a decade of art for social change. Efrog Newydd: E.P. Dutton. 1984 ISBN0525480374
Overlay: contemporary art and the art of prehistory. Efrog Newydd: Pantheon Books. 1983 ISBN0394518128
Eva Hesse. Efrog Newydd: New York University Press. 1976.
From the center: feminist essays on women's art. Efrog Newydd: Dutton. 1976.ISBN0525474277
Six years: the dematerialization of the art object from 1966 to 1972; a cross-reference book of information on some esthetic boundaries. Efrog Newydd: Praeger. 1973. ISBN0289703328
Changing: essays in art criticism. Efrog Newydd: Dutton. 1971.ISBN0525079424
Surrealists on art. Englewood Cliffs, N.J.: Prentice-Hall. 1970. ISBN0138780900
Pop art. Efrog Newydd: Praeger. 1966.
The Graphic Work of Philip Evergood. Efrog Newydd: Crown, 1966.
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1968), Gwobr Clymblaid Menywod am Gyflawniad Oes mewn Gwaith Celf (2007), Gwobr am Wasanaeth Anrhydeddus yn y Celfyddydau Gweledol (1999), Gwobr CAA am Ragoriaeth (2012), Audrey Irmas Award for Curatorial Excellence (2010)[12][13] .