Lynn Ungoed-Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mehefin 1904 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1972 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, barnwr ![]() |
Swydd | Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Priod | Dorothy Wolfe ![]() |
Plant | Jasper R. Ungoed-Thomas, R. F. W. Ungoed-Thomas ![]() |
Gwobr/au | Marchog Faglor ![]() |
Roedd Mr Ustus Syr Arwyn Lynn Ungoed-Thomas (29 Mehefin 1904 - 4 Rhagfyr 1972) yn Fargyfreithiwr, yn Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri a Gogledd Orllewin Caerlŷr ac yn Farnwr yr Uchel Lys [1]
Ganwyd Ungoed-Thomas yng Nghaerfyrddin yn fab i'r Parch Evan Ungoed-Thomas, gweinidog gyda'r Bedyddwyr a Katherine (née Howells) ei wraig.
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin ac yna'n myfyriwr yng Ngholeg Haileybury, Rhydychen a Choleg Magdalen, Rhydychen.
Bu'n chwarae rygbi i Brifysgol Rhydychen, Cymru Llundain ac ym 1924 bu ar y fainc dros dîm rhyngwladol Cymru.
Ym 1933 priododd Dorothy ferch Jasper Travers Wolfe bu iddynt dau fab ac un ferch.
Galwyd Ungoed-Thomas i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1929, fe'i codwyd yn Cwnsler y Brenin ym 1947 ac yn Feinciwr ym 1951. Bu'n aelod o Gyngor Cyffredinol y Bar o 1946 ac yn Gadeirydd Gymdeithas y bar yn Siawnsri.
Ym 1959 aeth i Pretoria ar ran Justice yr adran Brydeinig o Gomisiwn Rhyngwladol y Cyfreithegwyr fel arsyllwr ar yr achos llys yn erbyn Nelson Mandela ar gyhuddiad o fradwriaeth.[2]
Gwasanaethodd fel aelod o Bwyllgor Uthwatt ar Ddiwygio'r Drefn Brydlesol ym 1948 a bu'n aelod o Pwyllgor ar Lysoedd Marsial y Llynges ym 1949.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yng nghatrawd y Magnelwyr Brenhinol gan ddringo i reng Uwchgapten.
Yn etholiad cyffredinol 1945 safodd Ungoed-Thomas fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Llandaf a'r Barri, cipiodd y sedd gyda mwyafrif mawr oddi wrth y Ceidwadwyr. Erbyn yr etholiad nesaf ym 1950 diddymwyd Llandaf a'r Barri a fu'r etholaeth olynol Y Barri yn llawer mwy ymylol; gan hynny penderfynodd Ungoed-Thomas sefyll yng Nghaerfyrddin etholaeth ei fagwraeth, ond fe fu'n aflwyddiannus yn ei ymgais a llwyddodd yr Aelod Rhyddfrydol, Rhys Hopkin Morris i dal y sedd o 187 pleidlais.
Ychydig fisoedd wedi'r etholiad dyrchafwyd Terence Norbert Donovan AS Llafur Gogledd Orllewin Caerlŷr yn farnwr, gan achosi ei ymneilltuo o'r Senedd; dewiswyd Ungoed-Thomas fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer yr isetholiad; llwyddodd i gael ei ethol ac i ddal y sedd hyd 1962 pan gafodd ef, hefyd, ei dyrchafu'n farnwr a gorfod ymneilltuo o'r Senedd.[3]
Ym 1949 bu'n aelod o'r ddirprwyaeth i Brydain i Gyngor Ewrop lle fu'n dadlau'n gryf o blaid sefydlu Llys Hawliau Dynol Ewrop. Fe fu hefyd yn gefnogwr brwd i Brydain ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd gan lythyru i'r Times yn achlysurol i hyrwyddo'r achos.
Gwasanaethodd fel y Twrnai Cyffredinol o 1951 hyd ddymchwel llywodraeth Attlee ym 1951[4]
Fel Barnwr bu'n ymwneud â nifer o achosion pwysig gan gynnwys:
Bu farw yn sydyn yn Llundain yn 68 mlwydd oed[6]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Cyril Lakin |
Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri 1945 – 1950 |
Olynydd: dileu'r etholaeth |
Rhagflaenydd: Terence Donovan |
Aelod Seneddol Gogledd Orllewin Caerlŷr 1950 – 1962 |
Olynydd: Tom Bradley |