Léon Georget | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Léon Louis Georget 2 Hydref 1879 Preuilly-sur-Claise |
Bu farw | 5 Tachwedd 1949 Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol, seiclwr trac |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Q69505993 |
Seiclwr proffesiynol o Ffrainc oedd Léon Georget (ganwyd 2 Hydref 1879, Preuilly-on-Claise, Indre-et-Loire; bu farw 5 Tachwedd 1949), bu'n broffesiynol rhwng 1902 a 1927. Roedd yn frawd hyn i'r seiclwr proffesiynol arall, Émile Georget.
Roedd y Bol d'Or (Cymraeg: Y bowlen aur) yn brawf caled ar gyfer seiclwyr trac, syniad cyfarwyddwr papur newydd y Paris-Pédale, Mr Decam, oedd y ras, a chynigwyd y wobr, powlen efydd goreurog, gan Chocolats Meunier. Bwriad y ras oedd i rasio am 24 awr, y tu ôl i hyfforddwr ar gefn motobeic. Rhwng 1894 a 1928, delwyd y ras yn Vélodrome Buffalo, neu'r Vélodrome d'Hiver. Bu Georget yn aml yn reidio dros 900 km yn ystod y ras.
Enillwyd y ras yn 1904 gan Lucien Petit-Breton.