![]() | |
![]() | |
Math | ap ffôn |
---|---|
Math o fusnes | Mapiau ar-lein |
Hen enw | MapsWithMe |
Sefydlwyd | 2011 |
Pencadlys | Cyprus, Nicosia |
Pobl allweddol | Yury Melnichek, Alexander Borsuk, Viktor Govako, Siarhei Rachytski |
Gwefan | http://maps.me/ |
Ap symudol ar gyfer Android, iOS a BlackBerry yw Maps.me (MapsWithMe gynt), sy'n darparu mapiau all-lein gan ddefnyddio data OpenStreetMap. Yn Nhachwedd 2014 fe'i prynwyd gan Grŵp Mail.Ru a daeth yn rhan o'i frand My.com. Ym Medi 2015 daeth yr ap yn ffynhonnell agored[1] ac roedd fersiwn meddalwedd ffynhonnell agored am ddim hefyd ar gael ar F-droid[2] nes i'r rhaglen gael ei gwerthu i'r prosesydd taliadau Daegu Limited, sy'n rhan o Parity.com, a newidiodd ryngwyneb defnyddiwr a chynnwys y rhaglen,[3][4] ac achosodd hyn i'r gymuned meddalwedd rydd i ddatblygu versiwn heb hysbysebion a thraciwr o'r enw "Mapiau Organig".[5]
Datblygwyd yr ap yn Belarus a'r Swistir. Sefydlwyd Maps.me gan Yury Melnichek, Alexander Borsuk, Viktor Govako a Siarhei Rachytski. O dan arweiniad Alexander, enillodd MapsWithMe 2.5 miliwn o ddefnyddwyr cyntaf ym myd-eang. Roedd Yury Melnichek yn arwain y prosiect o Dachwedd 2013 tan Ebrill o 2016 pan gymerodd Evgeny Lisovskiy drosodd.[6] Yn gynnar yn 2017, newidiodd athroniaeth yr ap, iddo gael ei gefnogi gan hysbysebion.[7] Yn Nhachwedd 2020 gwerthodd Grŵp Mail.Ru Maps.me i'r prosesydd talu Daegu Limited, [8] rhan o Parity.com, a newidiodd ryngwyneb defnyddiwr a chynnwys y rhaglen,[9][10] a arweiniodd y gymuned meddalwedd rhydd i ddatblygu Mapiau Organig mewn ymateb.[11]
Yn y cychwyn datblygwyd y rhaglen gan MapsWithMe GmbH o Zürich gyda swyddfa ddatblygu ym Minsk.
Yn 2012, enillwyd MapsWithMe y gystadleuaeth "Startup Monthly" yn Vilnius. Enillodd y tîm cyfnod o hyfforddiant naw wythnos yn Nyffryn Silicon fel gwobr.[12]
Yn Nhachwedd 2014 prynwyd Maps.me gan Grŵp Mail.Ru am 542 miliwn o rwblau (tua US$14 miliwn bryd hynny) i'w gyfuno â My.com, a gwnaed yr ap yn rhad ac am ddim.[13] Cafodd y tîm peirianneg ei adleoli i'r swyddfa Grŵp Mail.Ru ym Moscfa i barhau i weithio ar y prosiect.
Yn 2019, cyfanswm ei refeniw oedd 159 miliwn o rwblau (UD$ 2.5 miliwn) gyda cholled EBITDA o 25 miliwn o rwbl (UD$ 0.39 miliwn).[8]
Ar 2 Tachwedd 2020 prynwyd Maps.me gan Daegu Limited am 1.56 biliwn o rwblau Rwsiaidd (tua US$20 miliwn ar gyfradd gyfnewid yn 2020). Cyhoeddir bod Daegu Limited yn rhan o Grŵp Parity.com.
Mae'r cwestiwn o berchnogaeth yn gymhleth, ond yn gryno mae pum cwmni yn chwarae rhan ar hyn o bryd: Daegu Ltd, Parity.com AG/Grŵp, Grŵp TMF, Stolmo Ltd, Maps.me (Cyprus) Ltd.