Margaret Beaufort | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1443 Swydd Bedford |
Bu farw | 29 Mehefin 1509, 1509 Westminster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | dyngarwr, addysgwr |
Swydd | rhaglyw |
Tad | John Beaufort, Dug Somerset 1af |
Mam | Margaret Beauchamp o Bletso |
Priod | Edmwnd Tudur, Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby, John de la Pole, 2nd Duke of Suffolk, Sir Henry Stafford |
Plant | Harri VII |
Llinach | Tŷ Beaufort |
Margaret Beaufort, Iarlles Richmond (31 Mai 1443 – 29 Mehefin 1509), oedd merch John, Dug 1af Somerset a mam Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Yn 1455, a hithau'n ferch ifanc 12 oed, priododd Edmwnd Tudur, mab Catherine de Valois gan Owain Tudur a brawd Siasbar Tudur. Bu farw Edmwnd yn 1456, ond cawsant fab. Trwy ei fam roedd Harri Tudur yn medru olrhain ei dras i John o Gaunt ac felly'n medru hawlio Coron Lloegr yn enw'r Lancastriaid.
Priododd yn gyntaf ŵyr y bardd Geoffrey Chaucer, sef John de la Pole, yn 1450, cyn ei bod yn 12 oed. Yna, priododd Edmwnd Tudur. Ar ôl marwolaeth Edmwnd, yn 14 oed, priododd Syr Henry Stafford (c.1425–1471), mab Humphrey Stafford, dug cyntaf Buckingham. Ei phedwerydd gŵr oedd Thomas, Arglwydd Stanley (1435 – 29 Gorffennaf 1504).
Cafodd Margaret ei charcharu am gyfnod gan yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Yn 1482, wedi i Richard III, brenin Lloegr, gipio coron Lloegr oddi wrth Edward V a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, Elizabeth Woodville am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch Elisabeth o Efrog ac eraill o'i theulu, yn Abaty Westminster. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda Harri Tudur yn Llydaw, ac yn awyddus i'w cloi yn Nhŵr Llundain. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i mewn nag allan. Roedd Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd yr Lancastriad Lewis o Gaerleon, a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon o'r naill at y llall, gan drefnu gyda nhw briodas Harri a merch Elisabeth, sef Elisabeth o Efrog. Hi felly drefnodd yr uniad rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid, a hynny flynyddoedd cyn y briodas ei hun ac a ysbrydolodd lawer o'r ddwy ochor i sicrhau llwyddiant Harri Tudur.[1][2]
Oherwydd mai Margaret oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda Buckingham, beth wnaeth ei gŵr tra phwerus, Thomas, Arglwydd Stanley, oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny, ochrodd gyda Richard. Gwobrwywyd ef gan y brenin, a derbyniodd llawer o diroedd yn Lloegr a pheth yng Nghymru. Roedd eisoes (o dan Buckingham) yn un o uchelwyr grymusaf Cymru. Nid ymunodd y Cymru yn y gwrthryfel cyntaf, aflwyddiannus, yn bennaf gan nad oedd Thomas Stanley yn rhan o'r ymgyrch; yn eu barn nhw, Sais oedd Henry Stafford, ac nid oes tystiolaeth i unrhyw uchelwr o Gymro ei ddilyn. Yn hytrach na dienyddio Margaret am ei rôl blaenllaw yn yr ymgyrch, tynnodd Richard III ei harian oddi wrthi a'i roi i'w gŵr; yn yr un modd tynnodd ei gweision a'i morynion oddi wrthi a'i chaethiwo dan ofal ei gŵr. I ferch annibynnol, gyda'i harian a'i thiroedd a'i rhyddid ei hun, roedd hyn yn gosb llym. Ond parhau i weithio yn y dirgel dros Harri wnaeth Margaret.
Tyngodd Harri Tudur lw o ffyddlondeb i Elizabeth ar Ddiwrnod Nadolig 1483 yn Eglwys Gadeiriol Gwened (Vannes), gyda thua 500 o'i ffyddloniaid wedi ymgynull. Tyngodd hwythau lw o ffyddlondeb i Harri. I deuluoedd y Woodvilles a'r Iorciaid, roedd hyn yn golygu parhad y gwaed Iorcaidd ym mrenhiniaeth Lloegr; ac yn uno'r Iorciaid gyda'r Lancastriaid. Oherwydd hyn dyfnhaodd y teimlad mai Harri oedd gwir frenin Lloegr. O safbwynt Cymru, roedd yn uno'r Iorciaid fel Guto'r Glyn a'r Lancastriaid, ac felly'n uno Cymru dan faner y Tuduriaid, drwy'r Cymro Harri Tudur.[3]
Roedd hi'n noddwr i'r argraffydd arloesol William Caxton a sefydliadau ym mhrifysgolion Rhydychen a Caergrawnt. Hi fu'n gyfrifol yn ogystal am godi'r adeilad presennol o gwmpas Ffynnon Wenffrei yn Nhreffynnon, Sir y Fflint (1490 - 1500).
Priododd Margaret: