Margaret Burke Sheridan | |
---|---|
Ganwyd | 15 Hydref 1889 Castlebar |
Bu farw | 16 Ebrill 1958 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | soprano |
Roedd Margaret Burke Sheridan (15 Hydref 1889 - 16 Ebrill 1958) yn gantores opera Gwyddelig. Fe'i ganed yng Nghastellbar, Swydd Mayo, Iwerddon.[1] Roedd yn cael ei hadnabod fel Maggie o Mayo[2] ac fe'i hystyrir yn ail Prima donna Iwerddon, ar ôl Catherine Hayes (1818-1861).
Derbyniodd Sheridan ei hyfforddiant lleisiol cynnar tra yn yr ysgol yn y Lleiandy Dominicaidd yn Eccles Street, Dulyn,[3] gyda gwersi ychwanegol gan Vincent O'Brien. Ym 1908, enillodd fedal aur yn y Feis Ceoil. Rhwng 1909 a 1911 astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yn ystod yr amser hwnnw fe’i cyflwynwyd i’r dyfeisiwr Eidalaidd Guglielmo Marconi, a fu’n allweddol wrth drefnu astudiaethau pellach iddi mewn opera yn Rhufain. Gyda chymorth Marconi, cafodd clyweliad ym 1916 gan Alfredo Martino, athrawes ganu amlwg ynghlwm wrth y Teatro Costanzi, a gwnaeth ei début yno ym mis Ionawr 1918 yn La bohème gan Puccini . [4] Ym mis Gorffennaf 1919 ymddangosodd yn y Tŷ Opera Brenhinol (Covent Garden) yn rôl teitl Iris gan Pietro Mascagni. Dychwelodd Sheridan i'r Eidal, lle parhaodd ei gyrfa i dyfu, gyda pherfformiadau yn y Teatro Dal Verme ym Milan ac yn y Teatro di San Carlo yn Napoli, yn bennaf yn rolau Puccini. Ym 1922 canodd gyntaf yn La Scala, Milan, yn La Wally gan Catalani o dan gyfarwyddyd Toscanini. Am yr ychydig flynyddoedd nesaf byddai hi'n canu yn La Scala gyda llwyddiant mawr. Efallai mai ei rôl fwyaf oedd fel Cio-cio-san yn Madama Butterfly, a ganodd yn helaeth yn yr Eidal ac yn Covent Garden. Pan glywodd hi yn canu ran Madama Butterfly, dywedir bod Puccini wedi ei syfrdanu.[5]
Er gwaethaf ei llwyddiannau, roedd gyrfa Sheridan yn un fyr. Yn dioddef anawsterau lleisiol gwnaeth i ymddeol tua 1930 heblaw am ychydig o gyngherddau. Dywed Bríd Mahon, yn ei llyfr o 1998 While Green Grass Grows, tudalen 123: "Roedd si ar led bod Eidalwr yr oedd wedi ei wrthod wedi chwythu ei ymennydd allan mewn blwch yn La Scala, Milan, tra roedd hi ar y llwyfan ac ar ôl y drasiedi na chanodd hi yn gyhoeddus eto." Bu farw mewn ebargofiant cymharol, ar ôl byw yn Nulyn am nifer o flynyddoedd, a chladdwyd ei gweddillion ym Mynwent Glasnevin, Dulyn.[6]
Gwnaeth Sheridan recordiad cyflawn o Madama Butterfly gyda cherddorfa La Scala yn ystod 1929-30 ar label gramoffon, recordiodd hi hefyd nifer o recordiadau o ddeuawdau operatig gyda’r tenor Aureliano Pertile, yn ogystal ag ariâu o operâu dethol gan Michael William Balfe, Arrigo Boito, Giacomo Puccini, Giuseppe Verdi a Richard Wagner. Recordiodd hefyd amryw o drefniadau o ganeuon traddodiadol Gwyddelig gan Balfe, John William Glover, Thomas Moore ac eraill.
{{DEFAULTSORT:Sheridan, Margaret Burke}} {{Rheoli awdurdod}} [[Categori:Genedigaethau 1889]] [[Categori:Marwolaethau 1958]] [[Categori:Cantorion opera]] [[Categori:Cantorion Gwyddelig]]