Margaret Drabble | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1939 Sheffield |
Man preswyl | Sheffield |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, sgriptiwr, beirniad llenyddol, cofiannydd, llenor, dramodydd, golygydd, rhyddieithwr |
Tad | John Drabble |
Priod | Clive Swift, Michael Holroyd |
Plant | Adam Swift, Joe Swift |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr John Llewellyn Rhys, Gwobr E. M. Forster, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Nofelydd Seisnig yw'r Fonesig Margaret Drabble, Lady Holroyd, DBE, FRSL (ganwyd 5 Mehefin 1939).[1] Mae hi'n chwaer i'r nofelydd A. S. Byatt.
Ysgrifennod Drabble The Millstone (1965), a enillodd Wobr Goffa John Llewellyn Rhys y flwyddyn ganlynol, a Jerusalem the Golden, a enillodd Wobr Goffa James Tait Black ym 1967.
Cafodd ei geni yn Sheffield, yn ferch i'r gyfreithiwr ac awdur John F. Drabble a'i wraig, yr athrawes Kathleen Marie Drabble (ganwyd Bloor). Cafodd ei haddysg yn y Mount School, yn Efrog, ac wedyn yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Cafodd ei hanrhydeddu gan Brifysgol Caergrawnt yn 2006, ar ôl derbyn gwobrau gan nifer o brifysgolion traddodiadol yn gynharach (er enghraifft Sheffield, Hull, Manceinion) a phrifysgolion eraill (fel Bradford, Keele, East Anglia ac Efrog). Derbyniodd Wobr EM Forster Academi Celfyddydau a Llythyrau America yn 1973.
Priododd â'r actor Clive Swift ym 1960; ysgaron nhw ym 1975. Bu iddynt dri o blant, gan gynnwys y garddwr a'r bersonoliaeth deledu Joe Swift, yr academydd Adam Swift, a Rebecca Swift (m. 2017), a oedd yn cynnal y Literary Consultancy.[2][3][4] Ym 1982, priododd Drabble â'r llenor a'r cofiannydd Syr Michael Holroyd; [5] maent yn byw yn Llundain a Gwlad yr Haf.[1]