Margot Kidder | |
---|---|
Ganwyd | Margaret Ruth Kidder 17 Hydref 1948 Yellowknife |
Bu farw | 13 Mai 2018 Livingston |
Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llais, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Sidney "Kendall" Kidder |
Priod | Thomas McGuane, John Heard, Philippe de Broca |
Partner | Brian De Palma |
Plant | Maggie McGuane |
Gwobr/au | Academy of Canadian Cinema and Television Award for Best Performance by an Actress in a Leading Role, Gwobr Saturn am yr Actores Orau, Daytime Emmy Award for Outstanding Performer in Children's Programming |
Gwefan | http://www.margotkidder.com |
Actores ac ymgyrchydd Canadaidd-Americanaidd oedd Margaret Ruth Kidder (17 Hydref 1948 – 13 Mai 2018), oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Margot Kidder. Cododd i enwogrwydd ym 1978 am ei rhan fel Lois Lane yn nghyfres ffilmiau Superman, ochr yn ochr â Christopher Reeve. Dechreuodd Kidder ei gyrfa yn y 1960au, yn ymddangos mewn ffilmiau a chyfresi teledu cyllid isel Canadaidd, cyn derbyn prif rhan yn Quackser Fortune Has a Cousin in the Bronx (1970).
Ymddangosodd wedyn yn chwarae efeilliaid yn y ffilm arswyd cwlt Sisters (1973) gan Brian De Palma; y ffilm 'slasher' Black Christmas (1974); a'r ddrama The Great Waldo Pepper (1975), yn chwarae yn erbyn Robert Redford. Gwnaeth ei pherfformiad fel Kathy Lutz yn y ffilm arswyd The Amityville Horror (1979) ei dwyn i sylw cynulleidfa ehangach.
Erbyn y 1980au hwyr, roedd gyrfa Kidder gyrfa yn dechrau arafu. Yn ddiweddarach, yn 1996, chwalodd ei nerfau a chafodd gyfnodau manig a ddaeth yn gyhoeddus. Erbyn y 2000au, fodd bynnag, roedd wedi gweithio yn gyson ar ffilmiau annibynnol a rhaglenni heledu, gyda rhannau gwadd ar Smallville, Brothers & Sisters, ac The L Word. Yn 2015, enillodd Wobr Daytime Emmy am ei pherfformiad ar y gyfres teledu plant R. L. Stine The Haunting Hour. Bu hefyd yn actio mewn cynyrchiadau theatrig, yn fwyaf nodedig am ymddangos ar Broadway yng nghynhyrchiad 2002 o The Vagina Monologues.
Yn 2005, daeth Kidder yn ddinesydd Americanaidd. Yn ei blynyddoedd olaf, daeth Kidder yn ymgyrchydd difloesgni ar bynciau gwleidyddol, amgylcheddol, a gwrth-ryfel.[1] Bu farw ar 13 Mai 2018, yn ei chartref yn Livingston, Montana.[2]
Ganwyd Kidder, yn un o bump o blant, yn Yellowknife, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, merch Jocelyn Mary "Jill" (née Wilson), athrawes hanes, a Kendall Kidder, arbennigwr ffrwydron a pheiriannydd.[3][4][5] Yn ystod ei phlentyndod treuliodd Kidder amser hefyd yn Ninas Labrador, Newfoundland a Labrador.[6] Roedd ei mam yn dod o Columbia Brydeinig, Canada, a daeth ei thad o New Mexico, yr Unol Daleithiau. Yn 2015, darganfu fod ei theulu o dras Gymreig a Seisnig. Daeth i Gymru i ymchwilio cofnodion lleol am ei chyndeidiau ym Mhowys.[7]
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1968 | The Best Damn Fiddler from Calabogie to Kaladar | Rosie Prometer | |
1969 | Gaily, Gaily | Adeline | |
1970 | Quackser Fortune Has a Cousin in the Bronx | Zazel | |
1973 | Sisters | Danielle Breton / Dominique Blanchion | |
1974 | A Quiet Day in Belfast | Brigit Slattery / Thelma Slattery | Gwobr Ffilm Canadaidd am Actores Orau |
1974 | The Gravy Train | Margue | |
1974 | Black Christmas | Barbara 'Barb' Coard | Gwobr Ffilm Canadaidd am Actores Orau |
1975 | The Great Waldo Pepper | Maude | |
1975 | The Reincarnation of Peter Proud | Marcia Curtis | |
1975 | 92 in the Shade | Miranda | |
1978 | Superman | Lois Lane | Gwobr Saturn am Actores Orau |
1978 | Shoot the Sun Down | The Woman from England | |
1979 | The Amityville Horror | Kathy Lutz | Enwebwyd – Gwobr Saturn am Actores Orau |
1979 | Mr. Mike's Mondo Video | Ei hun | |
1980 | Willie & Phil | Jeannette Sutherland | |
1980 | Superman II | Lois Lane | Enwebwyd – Gwobr Saturn am Actores Orau |
1981 | Heartaches | Rita Harris | Gwobr Genie am Actores Orau |
1982 | Some Kind of Hero | Toni Donovan | |
1982 | Miss Right | Juliette | |
1983 | Trenchcoat | Mickey Raymond | |
1983 | Superman III | Lois Lane | Cameo |
1985 | Little Treasure | Margo | |
1986 | GoBots: Battle of the Rock Lords | Solitaire | Voice |
1986 | Keeping Track | Mickey Tremaine | |
1987 | Superman IV: The Quest for Peace | Lois Lane | |
1989 | Mob Story | Dolores | |
1990 | White Room | Madelaine X | |
1991 | Delirious | Woman in Washroom | di-gydnabyddiaeth |
1992 | Aaron Sent Me | Kaitlynn Prescott | |
1993 | La Florida | Vivy Lamori | |
1994 | One Woman's Courage | Stella Jenson | Ffilm deledu |
1994 | Maverick | Margret Mary | di-gydnabyddiaeth |
1994 | WindRunner | Sally 'Mom' Cima | |
1994 | The Pornographer | Irene | |
1994 | Beanstalk | Doctor Kate 'Doc' Winston | |
1996 | Henry & Verlin | Mabel | |
1996 | Never Met Picasso | Genna Magnus | |
1997 | The Planet of Junior Brown | Miss Peebs | |
1997 | Shadow Zone: My Teacher Ate My Homework | Sol | |
1997 | Silent Cradle | Cindy Wilson | |
1999 | The Hi-Line | Laura Johnson | |
1999 | The Clown at Midnight | Ellen Gibby | |
1999 | The Annihilation of Fish | Mrs. Muldroone | |
1999 | Nightmare Man | Lillian Hannibal | |
2000 | Apocalypse III: Tribulation | Eileen Canboro | |
2002 | Angel Blade | Frida | |
2002 | Crime and Punishment | Katerina Marmelodov | |
2004 | Chicks with Sticks | Edith Taymore | |
2004 | Death 4 Told | Madam Badeau | Gwobrau Scream am Actores Orau, (darn "The Psychic") |
2008 | Universal Signs | Rose Callahan | |
2008 | Love at First Kill | Beth | |
2008 | On the Other Hand, Death | Dorothy | |
2008 | A Single Woman | Storiwr | |
2009 | Something Evil Comes | Claudia Brecher | |
2009 | Halloween II | Barbara Collier | |
2011 | Redemption: For Robbing the Dead | Marlys Baptiste | |
2011 | Three of a Kind | Claire | |
2012 | HENRi | Dr. Calvin | Ffilm fer |
2013 | Matt's Chance | Mother Mable | |
2013 | Real Gangsters | Stella Kelly | |
2014 | The Dependables | Jean Dempsey | |
2014 | The Big Fat Stone | Madge | |
2015 | No Deposit | Margie Ryan | |
2016 | The Red Maple Leaf | Amanda Walker | |
2017 | The Neighborhood | Maggie |
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1969 | Wojeck | 1 bennod | |
1969 | Adventures in Rainbow Country | Dr. Janet Rhodes / Sportscar Driver | 2 bennod |
1969 | McQueen | Jenny | |
1969 | Corwin | Denny | Penodau "Does Anybody Here Know Denny?, Pts. 1 & 2" |
1970 | The Mod Squad | Claire Allen | 1 bennod |
1971 | Suddenly Single | Jackie | Ffilm deledu |
1971–1972 | Nichols | Ruth | 5 pennod |
1972 | The Bounty Man | Mae | Ffilm deledu |
1972 | Banacek | Linda Carsini | 1 bennod |
1972 | Harry O | Helen | 1 bennod |
1973 | Barnaby Jones | Lori Wright | 1 bennod |
1974 | The Suicide Club | Ffilm deledu | |
1974 | Honky Tonk | Lucy Cotton | Ffilm deledu |
1975 | Baretta | Terry Lake | 1 bennod |
1975 | Wide World Mystery | Gerry | 1 bennod |
1976 | Switch | Andrea Morris | 1 bennod |
1979 | Saturday Night Live | Ei hun (cyflwynwydd gwadd) | 1 bennod: "Margot Kidder/The Chieftains" |
1982 | Bus Stop | Cherie | Ffilm deledu |
1983 | Pygmalion | Eliza Doolittle | Ffilm deledu |
1984 | Louisiana | Virginia Tregan | Ffilm deledu |
1985 | The Hitchhiker | Jane Reynolds | 1 bennod |
1985 | Picking Up the Pieces | Lynette Harding | Ffilm deledu |
1986 | The Wonderful Wizard of Oz | Adroddwr | (cyfres un flwyddyn) |
1986 | Vanishing Act | Chris Kenyon | Ffilm deledu |
1987 | Shell Game | Dinah / Jennie Jerome | 5 pennod |
1987 | Tales from the Crypt | Cynthia | 1 bennod |
1988 | Body of Evidence | Carol Dwyer | Ffilm deledu |
1992 | To Catch a Killer | Rachel Grayson | Ffilm deledu |
1992–1993 | Street Legal | Charlotte Percy | 2 bennod |
1993 | Murder, She Wrote | Dr. Ellen Holden | 1 bennod |
1993–1995 | Captain Planet and the Planeteers | Gaia (llais) | 5 pennod |
1995 | Burke's Law | Joy Adams | 1 bennod |
1995 | Bloodknot | Evelyn | Ffilm deledu |
1996–1997 | Boston Common | Cookie de Varen | 5 pennod |
1996 | Phantom 2040 | Rebecca Madison | 1 bennod |
1997 | The Hunger | Mrs. Sloan | |
1997 | Aaahh!!! Real Monsters | Mistress Helga (llais) | 2 bennod |
1997 | The Teddy Bears' Scare | Mrs. Jones (llais) | Ffilm deledu |
1998 | Touched by an Angel | Rita | 1 bennod |
1999 | La Femme Nikita | Roberta Wirth | 1 pennod; Enwebwyd – Gwobr Teledu OFTA am Actores Gwadd Orau mewn Cyfres Cebl[8] |
2000 | Amazon | Morag | 3 pennod |
2000 | Someone Is Watching | Sally Beckert | Ffilm deledu |
2001 | Law & Order: Special Victims Unit | Grace Mayberry | 1 bennod |
2001 | Mentors | Queen Elizabeth I | 1 bennod |
2001 | Earth: Final Conflict | Dr. Josephine Mataros | 1 bennod |
2004 | Smallville | Bridgette Crosby | 2 bennod |
2004 | I'll Be Seeing You | Frances Grolier | Ffilm deledu |
2005 | Robson Arms | Elaine Wainwright | 1 cyfres |
2005 | The Last Sign | Endora | 2 bennod |
2006 | The L Word | Sandy Ziskin | 1 bennod |
2007 | Brothers & Sisters | Emily Craft | 2 bennod |
2014 | R.L. Stine's The Haunting Hour | Mrs. Worthington | 1 bennod; Gwobr Daytime am Berfformiad Eithriadol mewn Rhaglenni Plant[9] |
|deadurl=
ignored (help)