Mary Harris Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Mai 1830 ![]() Corc ![]() |
Bedyddiwyd | 1 Awst 1837 ![]() |
Bu farw | 30 Tachwedd 1930 ![]() Silver Spring ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | athro, undebwr llafur, amddiffynnwr hawliau dynol, llenor, trefnydd undeb, trefnydd cymuned ![]() |
Plaid Wleidyddol | Social Democratic Party of America, Plaid Sosialaidd America ![]() |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall o Honor y Blaid Lafur ![]() |
Athrawes a gwniadwraig o'r Unol Daleithiau a ganwyd yn Iwerddon oedd Mary Harris "Mother" Jones (Gorffennaf 1837[1] – 30 Tachwedd 1930). Daeth yn enwog fel arweinydd sosialaidd ac undebwraig a drefnodd nifer o streiciau gan herio a chwyldroi Industrial Workers of the World.
Gweithiodd fel athrawes ac fel gwniadwraig ond wedi i'w gŵr a'i phedwar plentyn farw o'r cryd melyn a llosgi'i gweithdy yn 1871 dechreuodd weithio fel trefnydd "Marchogion Llafur" ac Undeb o'r enw "the United Mine Workers Union".
Yn 1867, pan oedd yn 60 oed, cafodd ei galw'n "Mother Jones" gan ei bod yn galw'r dynion y gweithiai drostynt yn "my boys". Oherwydd ei llwyddiant yn trefu ymgyrchoedd yn erbyn perchnogion chwareli a gweithiau mwynglawdd fe'i disgrifiwyd fel "y ddynes beryclaf yn America" gan y dywedodd y cyfreithiwr Reese Blizzard, yn 1902! Roedd yn wyllt gacwn gydag awdurdodau Pennsylvania oherwydd eu diffyg cyfreithiau i warchod plant yn y gweithle, ac o'r herwydd trefnodd i fartsio o Philadelphia i gartref yr arlywydd Theodore Roosevelt yn Efrog Newydd. Roedd llawer o blant ar yr orymdaith, gyda rhai'n cario baneri'n cyhoeddi "We want to go to School and not the mines!". Er na chytunodd yr arlywydd i'w chyfarfod, roedd ei hymgyrch wedi rhoi'r anghyfiawnder ar agenda'r cyhoedd.
Ym 1970 galwyd cylchgrawn poblogaidd ar ei hôl, sef Mother Jones.
Credodd yn gryf y dylai "dynion gael digon o arian fel y gall eu gwragedd aros adref i edrych ar ôl eu plant." [2] Yn wahanol i lawer iawn o ymgyrchwyr benywaidd ei hoes, dadleuai'n gryf yn erbyn erthyliad. Cyhoeddodd ei chredoau mewn cyfrol o'r enw The Autobiography of Mother Jones (1925).
Bu o flaen sawl llys barn gan wynebu cyhuddiadau o athrod ac enllib; ym 1925 enillodd y cyhoeddwr Charles A. Albert (a gyhoeddai'r Chicago Times) $350,000 yn ei herbyn.
Treuliodd ddiwedd ei hoes gyda ffrindiau yn Adelphi, Maryland, lle parhaodd i weithio tan y diwedd un yn erbyn anghyfiawnderau yn erbyn y gweithwyr a'u plant.
Bu farw yn Adelphi yn 93 oed ar 30 Tachwedd 1930.[3][4]
100-Year-Old [sic] Crusader in Her Time Had Headed Many All Night Marches of Strikers. Often Went To President. Lost All Her Family in Memphis Epidemic of 1867. Miners Became Her "Children." Idolized by Workers. Celebrates 100th [sic] Birthday. Mary (Mother) Jones, militant crusader for the rights of the laboring man, died at 11:55 last night at her home in near-by Maryland. She was 100 [sic] years old....