Max Adler

Max Adler
Ganwyd15 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria, Cisleithania Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, cymdeithasegydd, athro cadeiriol, gwyddonydd gwleidyddol, academydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Landtag of Lower Austria, Substitute Member of the Constitutional Court of Austria Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria Edit this on Wikidata

Athronydd Marcsaidd, cymdeithasegydd a gwleidydd o Awstria oedd Max Adler (15 Ionawr 187328 Mehefin 1937) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ysgol Awstro-Farcsiaeth.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, ac astudiodd gyfreitheg ym Mhrifysgol Fienna. Gweithiodd yn gyfreithiwr ac yn ei amser rhydd fe fu'n athronyddu, yn ymchwilio i gymdeithaseg, ac yn gwleidydda. Cychwynnwyd ar fyfyrgylch gweithwyr yn 1903 gan Adler, Karl Renner, a Rudolf Hilferding, a sefydlwyd y cyfnodolyn Marx-Studien (1904–23) gan Adler ac Hilferding. Cyfrannodd Adler yn aml at Der Klassenkampf, cylchgrawn Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen. Gwasanaethodd Adler yn Senedd Awstria o 1920 i 1923, yn aelod o gangen adain-chwith Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Awstria (SPÖ). Fe'i penodwyd yn athro cymdeithaseg ym Mhrifysgol Fienna yn 1920, a daliodd y swydd honno nes ei farwolaeth. Bu farw yn Fienna yn 64 oed.[1]

Syniadaeth

[golygu | golygu cod]

Yn ei syniadaeth Farcsaidd mae Adler yn cyfuno delfrydiaeth athronyddol â realaeth economaidd-gymdeithasol, gyda chymorth ei astudiaethau cymdeithasegol, er mwyn dehongli Marcsiaeth yn nhermau penderfyniaeth a dadlau dros adolygu strategaeth wleidyddol y mudiad sosialaidd. Dadleuodd Adler bod y fwrdeisiaeth yn meddu ar unbennaeth dan gochl democratiaeth seneddol, ac ymgyrchodd dros sefydlu unbennaeth y proletariat drwy ddulliau cyfreithlon a di-drais, os bosib. Yn ei lyfr Politische oder soziale Demokratie (1926) mae'n rhybuddio bod angen i'r dosbarth gweithiol uno fel bod y mudiad sosialaidd yn barod i gymryd yr awenau pryd fyddai gwrthdaro'r dosbarthiadau ar ei eithaf. Rhodd ei gefnogaeth i fudiad cynghorau'r gweithwyr fel strategaeth o ennill chwyldro comiwnyddol heddychlon. Beirniadodd y Bolsieficiaid am sefydlu unbennaeth y blaid yn sgil Chwyldro Rwsia yn hytrach na throsglwyddo grym gwleidyddol i'r dosbarth gweithiol cyfan. O ran ei gyfraniadau at ddamcaniaeth Farcsaidd, defnyddiodd Adler syniadau neo-Kantaidd a phositifaidd ac adeiladodd ar seiliau epistemolegol Marcsiaeth fel damcaniaeth gymdeithasegol.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Kausalitaet und Teleologie im Streite um die Wissenschaft (Fienna: Wien Brand, 1904).
  • Marx als Denker: zum 25. Todesjahre von Karl Marx (Berlin: Buchhandlung Vorwärts, 1908).
  • Marxistische Probleme: Beiträge zur Theorie der materialistischen Geschichtsauffassung und Dialektik (Stuttgart: J. H. W. Dietz Nachfolger, 1913).
  • Wegweiser: Studien zur Geistegeschichte des Sozialismus (Stuttgart: J. H. W. Dietz Nachfolger, 1914).
  • Die Staatsauffassung des Marxismus: ein Beitrag zur Unterscheidung von soziologischer und juristischer Methode (Fienna: Verlag der Wiener Volksbuchhandlung, 1922).
  • Das Soziologische in Kants Erkenntniskritik: ein Beitrag zur Auseinandersetzung zwischen Naturalismus und Kritizismus (Fienna: Verlag der Wiener Volksbuchhandlung, 1924).
  • Neue Menschen (Berlin: E. Laube, 1924).
  • Kant und der Marxismus: gesammelte Aufsätze zur Erkenntniskritik und Theorie des Sozialen (Berlin: E. Laub, 1925).
  • Politische oder soziale Demokratie: ein Beitrag zur sozialistischen Erziehung (Berlin: E. Laub, 1926).
  • Lehrbuch der materialistischen Geschichtsauffassung (Berlin: E. Laub, 1932).
  • Das Rätsel der Gesellschaft : zur Erkenntnis-kritischen Grundlegung der Sozialwissenschaft (Fienna: Saturn-Verlag, 1936).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. David Walker a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), t. 1.