Corff o ddŵr corslyd llonydd neu sy'n symud yn araf ac sydd wedi ei ddatgysylltu o brif gwrs afon yw mernant[1] (Ffrangeg a Saesneg: bayou). Gall fod ar ffurf llednant, dyfrffos fechan, neu ystumllyn. Maent yn nodwedd o ddelta'r Afon Mississippi yn nhalaith Louisiana yn yr Unol Daleithiau.[2][3]