![]() | |
Enghraifft o: | mosg ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Rhanbarth | Llywodraethiaeth Nablus, Nablus ![]() |
![]() |
Mae'r Mosg Hanbali (a elwir hefyd yn Fosg Hanabila (Arabeg: المسجد الحنبلي) yn fosg mawr yng nghanol Nablus ym Mhalesteina, ychydig oddi ar Stryd Jama'a Kabir i'r de o Sgwâr y Merthyr ac i'r gorllewin o Fosg Mawr Nablus.[1]
Sefydlwyd Mosg Hanbali gan deulu al-Hanbali o Nablus ar ddechrau'r 16g, rhwng 1526-27, a'i enwi ar eu hôl. Defnyddiwyd colfnau cerrig hynafol gyda phriflythrennau cerfiedig wrth adeiladu'r mosg, a oedd fwy na thebyg yn dyddio o'r cyfnod Bysantaidd neu'r Rhufeiniaid.[2] Yn ôl traddodiad Mwslimaidd lleol, mae'r blwch pren a osodwyd o fewn y mosg yn cynnwys tri blewyn o wallt Muhammad, proffwyd Islam. Cludir y blwch yn flynyddol ar y 27fed diwrnod o Ramadan i addolwyr ei weld a cheisio bendithion ganddo.[3]
Ailadeiladwyd meindwr Mosg Hanbali ym 1913. Yn y 1930au cynhaliodd imam y mosg, Sheikh Muhammad Radi al-Hanbali gysylltiadau ag arweinydd y gwrthryfelwyr Izz al-Din al-Qassam. Gweinyddir materion sy'n ymwnud a'r mosg gan deulu Hanbali hyd heddiw.[4] Yn ystod rheolaeth Gwlad Iorddonen yn y Lan Orllewinol yn dilyn Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, roedd yn un o'r ychydig fosgiau a gynhaliodd ei bwyllgor zakat ei hun a fyddai'n rheoli casglu a dosbarthu cronfeydd zakat trwy'r gymuned leol.