Math | bwrdeistref Pennsylvania |
---|---|
Poblogaeth | 3,426 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Montgomery County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 0.59 mi², 1.520792 km² |
Uwch y môr | 400 troedfedd |
Yn ffinio gyda | Sumneytown |
Cyfesurynnau | 40.2108°N 75.275°W, 40.2°N 75.3°W |
Mae North Wales yn fwrdeistref yn Montgomery County, Pennsylvania, Unol Daleithiau America. Erbyn heddiw mae'n un o faerdrefi allanol Philadelphia, Pennsylvania, ac yn un o dair tref hanesyddol yn Nyffryn Gogledd Penn. Ei phoblogaeth oedd 3,342 yn nghyfrifiad 2000.
Cafodd y dref ei henwi'n North Wales gan ei sefydlwyr am fod nifer mawr ohonynt yn ymfudwyr o ogledd Cymru (gweler hefyd Tract Cymreig). Dechreuodd fel pentref bychan yng nghefn gwlad amaethyddol Gwynedd Township.
Newidiwyd ei natur wledig gyda adeiladu Rheilffordd Gogledd Pennsylvania, a ddechreuwyd yn 1852. Dechreuodd gwasaneth o Fethlehem i Philadelphia trwy North Wales ar y rheilffordd honno yn 1857. Tyfodd y dref yn gyflym o gwmpas yr orsaf reilffordd. Cafodd North Wales ei wneud yn fwrdeistref yn 1869, gan ychwanegu tir o Upper Gwynedd Township.