Northrop Frye | |
---|---|
Ganwyd | 14 Gorffennaf 1912 Sherbrooke |
Bu farw | 23 Ionawr 1991 Toronto |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, athronydd, addysgwr, clerig, bardd, beirniad llenyddol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Fearful Symmetry, Anatomy of Criticism |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Molson, Cydymaith o Urdd Canada, Pierre Chauveau Medal, Cymrodoriaeth Cymdeithas Frenhinol Canada |
Beirniad llenyddol ac academydd o Ganada oedd Herman Northrop Frye CC (14 Gorffennaf 1912 – 23 Ionawr 1991).
Ganwyd yn Sherbrooke yn nhalaith Québec, a fe'i magwyd ym Moncton, New Brunswick. Astudiodd athroniaeth a Saesneg yng Ngholeg Victoria ym Mhrifysgol Toronto o 1929 i 1933. Cyflawnodd gwrs diwinyddiaeth yng Ngholeg Emmanuel, a chafodd ei ordeinio yn Eglwys Unedig Canada yn 1936. Aeth i Goleg Merton, Rhydychen ar ysgoloriaeth a derbyniodd ei radd meistr yno yn 1940. Dychwelodd i Ganada yn 1939 i addysgu yn adran Saesneg Coleg Victoria, a daeth yn gadeirydd yr adran honno yn 1952. Daliodd swyddi prifathro (1959–67) a changhellor (1978–91) y coleg, ac arhosodd yno hyd ddiwedd ei fywyd. Bu farw yn Toronto yn 78 oed.[1][2]
Ymdriniai llyfr cyntaf Frye, Fearful Symmetry (1947), â barddoniaeth broffwydol William Blake, pwnc a oedd hyd yn hynny wedi ei esgeuluso gan ysgolheigion. Dangosai Frye bod Blake yn tynnu ar symbolaeth grefyddol, megis John Milton, sydd yn dibynnu ar y Beibl. Deng mlynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Frye ei ail lyfr a'i waith pwysicaf, Anatomy of Criticism (1957), astudiaeth gyfolwg o egwyddorion a thechnegau sydd yn categoreiddio'r mythau, cynddelwau, a rhethreg sydd yn gyffredin i lên y byd.fyd-eang. Yn y 1960au cyhoeddodd lyfrau ar T. S. Eliot, Milton, William Shakespeare, a'r Rhamantwyr Seisnig. Dylanwadodd ei waith ar sawl beirniad ac ysgolhaig llenyddol yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, gan gynnwys Harold Bloom a Geoffrey Hartman.
Daeth Frye yn ddeallusyn enwog a deithiodd yn rhyngwladol, a chyhoeddodd sawl cyfrol o draethodau a darlithoedd. Cafodd ddylanwad neilltuol ar lên ei famwlad, ac ymhlith ei fyfyrwyr mae nifer o lenorion gwychaf Canada, gan gynnwys Jay Macpherson, James Reaney, a Margaret Atwood. Dadleuai Frye bod llên Canada yn gynnyrch "meddylfryd garsiwn" (Saesneg: garrison mentality) sydd yn adlewyrchu tywyllwch a diffeithder ei daearyddiaeth.[3] Yn The Great Code: The Bible and Literature (1982), lluniai Frye ddisgwrs ar dechnegau traethiadol ac arddull y Beibl, a'i ddylanwad ar lenyddiaeth y Gorllewin.