Lleoliad yn Ne Affrica | |
Lleoliad | Ger Krugersdorp yn ardal Johannesburg Fwyaf o ranbarth Gauteng, De Affrica |
---|---|
Dyfnder | 15m |
Hyd | 250m |
Uchder (uwch y môr) | 1450 m |
Darganfyddwyd | Rick Hunter a Steven Tucker |
Daeareg | Carreg Galchfaen |
Mynediad | lled y siafft: 18 cm |
Nodweddion | Esgyrn Homo naledi |
Archwiliwyd | 2013-15 |
Gwefan | http://www.profleeberger.com/ Gwefan Lee Berger |
Darganfuwyd esgyrn pobl gynnar yn Ogof y Rising Star sy'n taflu golau ar esblygiad dyn o epa. Mae'r ogof wedi'i lleoli yn nyffryn afon Bloubank, tua 800 metr (0.5 milltir) i'r de o Swartkrans, ac o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd darganfyddiadau archaeolegol. Fe'i cofrestrwyd fel Safle Treftadaeth y Byd.[1] Yn 2013 darganfuwyd ffosiliau ac ymchwiliwyd ymhellach i'r system hwn o ogofâu; erbyn 2015 sylweddolwyd fod yr esgyrn yn cynrychioli rhywogaeth sydd bellach wedi darfod: yr hominin a briodolir dros dro i'r genws Homo, ac a alwyd yn Homo naledi.[1]
Daw'r gair 'Dinaledi', sef yr enw ar y prif siambr lle darganfuwyd yr esgyrn o'r iaith leol, frodorol, sef yr iaith Sotho (a elwir hefyd yn Sesotho); ei ystyr yw 'siambr o sêr'. Bathwyd yr enw yn ystod hirdaith 2013.[2] Gelwir rhan arall o'r ogof yn 'Siafft Superman' (Saesneg: Superman’s Crawl) gan mai'r unig ffordd i fynd drwyddo yw drwy mabwysiadu safle hedfan y cymeriad ffilm Superman: un fraich yn sownd wrth y corff a'r llall uwch y pen.
Cred y daearegwyr nad yw'r ogof yn hŷn na thair miliwn o flynyddoedd.[3]
Archwiliwyd yr ogof gan arbenigwyr dringo drwy ogofâu yn y 1980au; arweiniwyd y teithiau hyn gan South African Speleological Association (SASA). Nid oeddent wedi ymchwilio'r rhan ble cafwyd hyd i'r esgyrn; dim ond y rhan cyntaf, sef 4,010 m o geg yr ogof.
Ar 13 Medi 2013, tra'n archwilio'r system hon o ogofâu, daeth Rick Hunter a Steven Tucker ar draws rhan nad oedd wedi'i harchwilio oherwydd ei bod mor gyfyng. Roedd y siafft hon yn fertig, o fath 'simnai' ac yn mesur 12 metr o hyd, gyda lled cyfartalog o 20 cm yn unig.[4]
Roedd Tucker a Hunter wedi clywed am archaeolegydd enwog o Johannesburg, Lee Berger, a oedd "yn chwilio am esgyrn" ac aethant ato gyda lluniau o'r hyn roeddent wedi ei ddarganfod. Trefnodd Berger grŵp o archaeolegwyr i archwilio'r ogof a chywain yr esgyrn i'r wyneb ble roedd tîm arall mewn pebyll yn eu harchwilio a'u dosbarthu. Erbyn Medi 2015 roedd tua 1,550 o ffosiliau wedi'u codi i'r wyneb a rhyddhawyd dau bapur academaidd am y canfyddiadau cychwynnol.[5]
Ar 10 Medi 2015 datgelwyd yn gyhoeddus rhai o'r canfyddiadau a chyhoeddwyd yr enw Homo naledi.[1][4]
Mae gan y rhywogaeth gorff tebyg o ran mas i berson bychan ei daldra, gydag ymennydd llai, ac sy'n debycach i'r Australopithecus, a phenglog tebyg o ran siâp i rywogaeth cynnar o Homo. Mae anatomi'r sgerbwd yn gyfuniad o nodweddion australopitheciaid a'r homininiaid cynnar. Ceir tystiolaeth i'r cyrff gael eu taflu neu iddynt ddisgyn i fewn i'r ogof tua'r un amser ag y buont farw. Hyd yn hyn, nid yw'r esgyrn wedi eu dyddio.[6]
Disgrifiwyd Homo naledi yn ffurfiol ym Medi 2015 gan 47 o awduron a gynigiodd fod yr esgyrn yn perthyn i rywogaeth newydd sbon. Cred arbenigwyr eraill, fodd bynnag, fod angen rhagor o dystiolaeth cyn dod i benderfyniad.
|work=
(help)
|work=
(help)