Mae pobl o Japan, yn defnyddio'r gair Panchira (パンチラ) er mwyn rhybuddio merched fod eu nicyrs yn y golwg. Portmantw ydyw'r term allan o'r geiriau "panty" (パンティー pantī) a chira, gair Siapaneg am gil-weld rhywbeth.[1][2] Mae'n wahanol i gipfflachio gan fod y gair pan yn nodi fod y ferch yn gwisgo dilledyn isaf. Pan nad yw'n gwneud hynny maen nhw'n defnyddio'r gair ノーパン; neu "nōpan".