![]() Paolo Radmilovic | ||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Paolo Francesco Radmilovic | |||||||||||||||||||||||||||
Llysenw | "Raddy" | |||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Caerdydd, Cymru | 5 Mawrth 1886|||||||||||||||||||||||||||
Bu farw | 29 Medi 1968 Weston-super-Mare, Lloegr | (82 oed)|||||||||||||||||||||||||||
Camp | ||||||||||||||||||||||||||||
Gwlad | Cymru | |||||||||||||||||||||||||||
Chwaraeon | Polo dŵr, Nofio | |||||||||||||||||||||||||||
Camp | Dull Rhydd | |||||||||||||||||||||||||||
Cofnod o fedalau
| ||||||||||||||||||||||||||||
Diweddarwyd 16 Awst 2016. |
Nofiwr a chwaraewr polo dŵr o Gymru o dras Croateg-Wyddeleg oedd Paolo Francesco Radmilovic (5 Mawrth 1886 – 29 Medi 1968). Llwyddodd i ennill pedair medal aur yn y Gemau Olympaidd gan ddod y Cymro cyntaf erioed i ennill medal Olympaidd[1]. Radmilovic oedd y person cyntaf i gynrychioli Prydain Fawr mewn pum Gemau Olympaidd[2].
Ganwyd Radmilovic yng Nghaerdydd,[2] trydydd mab Antun Radmilović, oedd wedi symud o Dubrovnik i Gaerdydd yn y 1860au gan ddod yn dafarnwr y Glastonbury Arms yn Stryd y Biwt,[3] a Hannah oedd wedi ei geni yng Nghaerdydd i rieni Gwyddelig[4]. Dechreuodd Rdmilovic nofio yn bum mlwydd oed yngg nghamlesi Caerdydd cyn symud i gael gwersi nofio ar ôl i'r Corporation Baths ail agor ym 1896[1][5].
Cafodd Radmilovic ei ddewis i gynrychioli tîm Polo dŵr Cymru yn 15 mlwydd oed[6] a phan yn 16 mlwydd oed cynrychiolodd Cymru mewn cystadleuaeth nofio rhyngwladol[1]. Llwyddodd i ennill ras 100 llath dull rhydd ym Mhencampwriaeth Cymru yn 15 mlwydd oed ym 1901 a daeth i lygaid y wasg Seisnig wrth ennill ras pum milltir yr Amateur Swimming Association ar Afon Tafwys ym 1907[7].
Parhaodd i nofio yn gystadleuol tan yn ei 40au gan ennill ras y 440 llath dull rhydd ym Mhencampwriaethau Nofio Cymru yn 43 mlwydd oed yn 1929[8].
Cafodd ei ddewis fel aelod o dîm polo dŵr Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 1908 yn Llundain a sgoriodd ddwy gôl yn y rownd derfynol wrth i Brydain drechu Gwlad Belg 9-2[9]. Er methu â chyrraedd y rownd derfynol yn y tair ras dull rhydd, cafodd ei alw i dîm ras gyfnewid 4x220 llath dull rhydd Prydain wedi i un o'r nofiwyr eraill fynd yn sâl a chasglodd ei ail fedal aur o'r gemau[7][10].
Wedi Gemau Olympaidd 1908, symudodd Radmilovic i Weston-super-Mare gan gynrychioli clybiau nofio a pholo dŵr y dref.
Casglodd ei drydedd medal aur yng Ngemau Olympaidd 1912 yn Stockholm, Sweden wrth i dîm polo dŵr Prydain Fawr drechu Awstria 8-0 yn y rownd derfynol[10] a chasglodd ei bedwaredd medal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1920 yn Antwerp, Gwlad Belg gyda Radmilovic yn sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Gwlad Belg[10].
Roedd yn aelod o'r tîm polo dŵr yng Ngemau Olympaidd 1924 a 1928 ond heb unrhyw lwyddiant[10].
Blwyddyn cyn ei farwolaeth, cafodd ei enwebu'n aelod o Oriel Anfarwolion Nofio Rhyngwladol[11].
Bu farw Radmilovic yn Weston-super-Mare, Lloegr ym 1968 ac mae wedi ei gladdu ym Mynwent Weston yn y dref.[10]
Cafodd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru ym 1993 ac i ddathlu canmlwyddiant ei fedalau aur yng Ngemau Olympaidd 1908 cafwyd cofeb yn ei enw ar furiau Pwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd[2][7].