Penparcau

Penparcau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN591801 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan hynafol sy'n gorwedd i'r de o Aberystwyth, Ceredigion, yw Penparcau. Fe'i ystyrir bellach yn faestref o Aberystwyth. Saif ar lan Afon Rheidol. Mae'r A487 yn mynd trwy Penparcau. Hanner milltir i'r dwyrain ceir Southgate.

Mae cyfleusterau Penparcau yn cynnwys Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos, maes chwarae, neuadd a sawl siop. Mae capel Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Capel Ebeneser, yno ers 1848, ac ail-adeiladwyd ym 1939.[1]

Symudwyd hen Dolldy Penparcau i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ym 1968, fel rhan o gasgliad yr amgueddfa o adeiladau traddodiadol Cymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Capel Ebeneser, Penparcau, Aberystwyth. Aberdare Blog. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.