Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Philippe Gilbert |
Dyddiad geni | 5 Gorffennaf 1982 |
Taldra | 1.79m |
Pwysau | 67kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Arbenigwr y clasuron |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2003–2008 2009– |
Française des Jeux Silence-Lotto |
Golygwyd ddiwethaf ar 7 Gorffennaf 2011 |
Seiclwr proffesiynol o Wlad Belg yw Philippe Gilbert (ganed 5 Gorffennaf 1982, Remouchamps, Aywaille). Mae Gilbert yn arbenigo mewn clasuron y ffordd. Ef yw'r ail berson, a'r Belgwr cyntaf erioed, i ennill yr holl dri o Glasuron Ardennes yn yr un flwyddyn.
Mae Gilbert wedi ennill sawl ras clasurol, gan gynnwys Paris-Tours (2008, 2009), Giro di Lombardia (2009, 2010), Amstel Gold Race (2010, 2011), La Flèche Wallonne (2011) a Liège–Bastogne–Liège (2011). Mae hefyd wedi ennill cymal o'r Giro d'Italia a'r Tour de France, yn ogystal â dau gymal o'r Vuelta a España.
Trodd Gilbert yn broffesiynol yn 2003 gan ymunod gyda thîm Française des Jeux wedi reidio fel stagiaire drost y tîm yn hwyr yn 2000. Cafodd ei fuddugoliaeth gyntaf pan enillodd cymal o'r Tour de l'Avenir. Dechreuodd tymor 2004 gan ennill cymal o'r Tour Down Under yn ogystal â'r dosbarthiad reidwyr ifanc. Cymerodd ran yn ras ffordd Gemau Olympaidd yr Haf 2004, lle gorffennodd yn 49fed safle. Enillodd hefyd y Paris–Corrèze. Yn 2005, enillodd sawl ras yn Ffrainc, a alluogodd ef i ennill cyfres Cwpan y Byd, roedd rhain yn cynnwys Trophée des Grimpeurs, Tour du Haut-Var a'r Polynormande. Cipiodd hefyd gymalau yn ras Four Days of Dunkirk a'r Tour Méditerranéen.
Daeth 2006 yn flwyddyn mwyaf llwyddiannus Gilbert hyd hynnu, pan enillodd y ras o fri, Omloop Het Volk, wedi ymosod dro ar ôl tro tan iddo lwyddo i ddianc ar ben ei hun gyda 7 km i fynd.[1] Yn ystod y tymor, enillodd hefyd GP de Fourmies a GP de Wallonie a chymalau o'r Dauphiné Libére a'r ENECO Tour.
Yn gynnar yn 2007, cafodd lawdriniaeth i dynnu nam cancr y croen oddi ar ei fordwydd.[2] Gohirwyd cychwyn ei dymor rasio oherwydd hyn, ond atalodd hyn ei ymdrechion yn ystod ras Milan – San Remo, pan lwyddodd i ddianc ar y Poggio gyda Riccardo Ricco cyn cael ei ddal 1200 metr o'r linell. Ni fu'n fuddugol tan Tour de Limousin, pan enillodd gymal, a hon oedd ei unig fuddugoliaeth yn 2007. Yn ras Paris–Tours, bu'n ymosod unwaith eto, ond cafodd ei ddal gyda 500 metr i fynd ynghyd â Karsten Kroon a Filippo Pozzato.
Dechreuodd dymor 2008 gan ennill gystadleuaeth brenin y mynyddoedd y Tour Down Under yn ogystal â dosbarthiad cyffredinol a dau gymal o'r Vuelta a Mallorca. Daeth yn drydydd yn Milan – San Remo, ac enillodd y Het Volk am yr eilwaith, wedi ymosodiad ar ben ei hun gyda 50 km i fynd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach enillodd y GP Samyn. Gorffennodd y flwyddyn gan ennill ras glasurol Paris–Tours mewn ymosodiad hwyr lle enillodd y sbrint i'r linell yn erbyn ei dri cyd-ymosodwyr, croesodd y peleton ond pedair eiliad tu ôl iddynt.
Yn 2009, ymunodd â'r tîm Belgaidd Silence-Lotto, ac ef oedd arweinydd y tîm yn y clasuron, a daeth yn drydydd yn y Tour of Flanders a phedwerydd yn Amstel Gold Race a Liège–Bastogne–Liège. Cipiodd ei gymal cyntaf mewn Grand Tour pen enillodd 20fed cymal y Giro d’Italia[3] ac enillodd cymal a dosbarthiad cyffredinol y Ster Elektrotoer. Yn hwyrach yn y tymor, ail-adroddodd ei fuddugoliaeth yn y Paris–Tours, gan ymosod ar yr esgyniad olaf gyda Tom Boonen a Borut Božič cyn eu curo mewn sbrint i'r linell. Wythnos yn ddiweddarach, enillodd ras o fri y Giro di Lombardia, wedi ymosod o'r peloton gyda Samuel Sánchez, gan ei guro i'r linell o hanner hyd-beic. Hon oedd ei bedwerydd buddugoliaeth yn olynol mewn 10 diwrnod, wedi iddo ennill y Coppa Sabatini, Paris-Tours a'r Giro del Piemonte. Ar ddiwedd y tymor, derbyniodd wobr Fflandryswr y Flwyddyn, yn cydnabod reidiwr Belgaidd gorau'r flwyddyn.[4]
Enillodd clasur cyntaf 2010, yr Amstel Gold Race, ym mis Ebrill. Bu'n ras frwydrol gyda nifer o ymosodiadau, enillodd Gilbert wedi iddo ymosod yn y 500 metr olaf ar yr esgyniad i'r linell, gan ennill yn gyfforddus sawl hyd-beic o flaen y peloton.[5] Enillodd hefyd gymal cyntaf y Tour de Belgique. Gorffennodd Gilbert dymor 2010 mewn siap gwych. Enillodd dau gymal o'r Vuelta a España gyda buddugoliaethau yn y Giro del Piemonte a'r Giro di Lombardia, gan ail-adrodd ei fuddugoliaethau yn y rasus rhain o 2009. Daeth ei fuddugoliaeth yn y Giro di Lombardia wedi ymosodiad er ei ben ei hun mewn tywydd erchyll.[6]
Yn 2011, cafodd Gilbert bedwar buddugoliaeth yn olynol, sef y Brabantse Pijl, ei ail fuddugoliaeth yn yr Amstel Gold Race, La Flèche Wallonne tri diwrnod yn ddiweddarach wedi iddo ddisgyn ei gyd-ymosodwyr ar esgyniad olaf Mur de Huy, a'r Liège–Bastogne–Liège gan guro'r brodyr Shleck mewn sbrint. Felly daeth Gilbert yr ail reidiwr, ar ôl Davide Rebellin yn 2004, i ennill tair clasur Ardennes mewn blwyddyn.[7]
Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn enillodd hefyd y Volta ao Algarve, Tirreno-Adriatico yn ogystal â dosbarthiad cyffredinol a chymal o'r Tour de Belgique a Ster ZLM Toer. Yn gynnar ym mis Mawrth enillodd y Montepaschi Strade Bianche, ras sy'n cynnwys 70 km o ffyrdd gro, a Pencampwriaethau Ras Ffordd Gwlad Belg ym mis Mehefin.
Cipiodd gymal cyntaf, 191.5 km, Tour de France 2011, o dair eiliad dros Cadel Evans, gan gipio'r crys melyn, y gwyrdd a'r dot polca yn y broses.[8] Collodd y crys yn ystod y treial amser tîm y diwrnod canlynol, ond deliodd ymlaen i'r crys gwyrdd a'r crys dot polca wedi cymal 2.