Plaid Cymru – The Party of Wales | |
---|---|
Arweinydd | Rhun ap Iorwerth |
Dirprwy Arweinydd | Delyth Jewell |
Arweinydd yn San Steffan | Liz Saville Roberts |
Cadeirydd | Marc Jones |
Llywydd Anrhydeddus | Arglwydd Wigley |
Sefydlwyd | 5 Awst 1925 |
Pencadlys | Tŷ Gwynfor, Marine Chambers, Anson Court, Atlantic Wharf Caerdydd, Cymru CF10 4AL |
Asgell yr ifanc | Plaid Ifanc |
Aelodaeth (2022) | 10,000 [1] |
Rhestr o idiolegau | Annibyniaeth Cenedlaetholdeb Cymreig Democratiaeth Sosialaidd [2][3][4] Amgylcheddaeth [5][6] |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Cynghrair Rhydd Ewrop |
Grŵp yn Senedd Ewrop | The Greens–European Free Alliance |
Lliw | Gwyrdd Melyn |
ASau | 4 / 32 |
Tŷ'r Arglwyddi [7] | 2 / 790 |
Senedd Cymru | 12 / 60 |
Llywodraeth leol yng Nghymru [8] | 205 / 1,231 |
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 1 / 4 |
Gwefan | |
www.plaid.cymru | |
Mae Plaid Cymru – The Party of Wales (hefyd Plaid) yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am annibyniaeth i Gymru[9] o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Yr arweinydd presenol yw Rhun ap Iorwerth. Yn draddodiadol y mae Plaid wedi bod gryfaf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd ac mae torri trwodd yng Nghymoedd y De yn uchelgais gan y blaid ers blynyddoedd.
Roedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones wedi galw am hunanlywodraeth ("Home Rule") i Gymru yn y 19g, ac roedd y Blaid Lafur gynnar yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan 1918 ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau.
Sefydlwyd "Y Blaid Genedlaethol", sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, mewn cyfarfod a gynhaliwyd Ddydd Mercher wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1925 yn Neuadd Maesgwyn, Pwllheli. Rhai o'r sylfaenwyr oedd Saunders Lewis, Lewis Valentine a H. R. Jones. Roedd mewn gwirionedd yn uniad o ddau fudiad: Byddin Ymreolwyr Cymru (The Welsh Home Rule Army) a'r Mudiad Cymreig (The Welsh Movement).
Y prif amcanion oedd cael hunanlywodraeth yn null dominiwn i Gymru, amddiffyn y Gymraeg, a chael sedd i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Yn nhridegau'r 20g, daeth J. E. Jones yn ysgrifennydd a threfnydd yn 1930, swydd a ddaliodd hyd 1962. Trefnodd ef nifer o ymgyrchoedd, yn cynnwys ymgyrch i gael Gwasanaeth Radio Cymraeg y BBC, a gafwyd yn 1935. Trefnwyd deiseb i gael achosion llys yn y Gymraeg.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, awgrymodd ambell wrthwynebwr gysylltiadau rhwng arweinwyr Plaid Cymru a mudiadau ffasgaidd Ewrop. Ysgrifennai'r Parchedig Gwilym Davies yn Y Traethodydd (1942), heb dystiolaeth, bod y blaid am sefydlu cyfundrefn unbleidiol a sefydliadau ffasgaidd, gan gynnwys adain barafilwrol, yng Nghymru.[10] Mewn erthygl yn Y Llenor o'r enw "Mae'r gwylliaid ar y ffordd" (1940), lluniai W. J. Gruffydd linell rhwng Hitler a'r Pab, a thrwy hynny fe awgrymai cysylltiad os nad cyfystyredd rhwng ffasgaeth a Chatholigiaeth. Gan fod Saunders Lewis, arweinydd deallusol amlyca'r blaid, yn Babydd, roedd y cyhuddiad yn amlwg.[11] Yn ddiweddarach, adleisiai'r un cyhuddiad gan golofnwyr a ddefnyddiai'r ffugenw John Pennant yn y Western Mail, a'r gwleidyddion Ness Edwards, Jim Griffiths, Leo Abse, a Kim Howells, ac hyd yr 21g gan y Welsh Mirror.[12] Tynnir sylw yn aml at sylwadau gwrth-Semitaidd gan Saunders Lewis, ac edmygedd Ambrose Bebb am Charles Maurras, arweinydd L'Action Française, fel tystiolaeth honedig o wreiddiau ffasgaidd y blaid.[13]
Yn ei lyfr diffiniol ar y pwnc hwn, 'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth, ysgrifennai Richard Wyn Jones bod y dystiolaeth mor dila a'r dadleuon mor simsan fel petai'r cyhuddiad o ffasgaeth yn "ymdrech i alltudio Plaid Cymru o gylch trafodaeth wleidyddol yng Nghymru – i'w hesgymuno o sffêr 'y derbyniol'."[14] Nodai bod tair o elfennau pwysicaf ffasgaeth – gwladwriaeth-addoliad, mawrygu trais, a mawrygu arweinydd carismataidd – yn absennol o ideoleg a thraddodiad y blaid, os nad yn hollol groes iddi.[15] Gwelai elfen gref o wrth-Gatholigiaeth mewn cyhuddiadau Gwilym Davies ac W. J. Gruffydd.[16] Yn sicr ceir sawl sylwad gwrth-Semitaidd yn ysgrifau Saunders Lewis, ond nodai Richard Wyn Jones bod y fath ragfarn yn gyffredin ymhlith nifer o drigolion Gwledydd Prydain yn ystod yr oes honno, ac os cyhuddir Lewis yn ffasgwr ar sail hynny'n unig, bu rhaid labelu Winston Churchill, George Orwell, a W. J. Gruffydd ei hun yn ffasgwyr hefyd.[17]
Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Cafwyd cynhadledd stormus ym 1949, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Plaid Weriniaethol Cymru. Ni chafodd y blaid newydd lawer o lwyddiant etholiadol, a daeth i ben tua chanol y 1950au, ond cafodd gryn ddylanwad ar bolisïau Plaid Cymru. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.
Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl, er y gwrthwynebiad gan bron pob aelod seneddol o Gymru, cynyddodd y gefnogaeth i Blaid Cymru.
Enillodd y blaid ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14 Gorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gaeaf 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.
Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerffili ddiwedd y 1960au, ac roedd yn rheoli Merthyr Tudful am gyfnod.
Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 a hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Chaerffili (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.
Cyflwynodd Plaid Cymru y dystiolaeth ar ffurf pump memorandwm byr: Cenedlaetholdeb Gwleidyddol (Gwynfor Evans), Cenedligrwydd Cymru (Chris Rees), Yr Achos Economaidd dros Ymreolaeth (Phil Williams), Cyfansoddiad Cymru hunan-lywodraethol (Dewi Watcyn Powell), a Perthynas Gyllidol Gwledydd Prydain (Dafydd Wigley).
Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad Chwefror 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 enillwyd Etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.
Yn dilyn buddugoliaeth mewn refferendwm a gynhaliwyd ym mis Fedi 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.
Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.
Collodd y blaid dir yn yr etholiadau, aeth hi lawr i 12 sedd. Serch hynny, parhaodd fel y gwrth-blaid swyddogol yn y Cynulliad.
Yn dilyn yr etholiad, camodd Ieuan Wyn Jones lawr fel Llywydd y blaid ond i gael ei ail-ethol fel yr arweinydd yn y Cynulliad o drwch blewyn.
Yn 2006, mabwysiadodd y blaid logo newydd, y pabi Cymreig yn lle'r Triban.
Enillodd Plaid Cymru 15 sedd yn yr etholiad, a wedi'r buddogoliaethau ffurfiodd clymblaid gyda'r Blaid Lafur - y tro cyntaf i'r blaid lywodraethu Cymru yn ei hanes. Etholwyd Ieuan Wyn Jones fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru.
Yn sgil addewid yng nghytundeb Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Enillwyd y refferendwm gyda mwyafrif sylweddol: pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a 36.51% 'nac ydw'.
Collodd Plaid Cymru seddi yn etholiadau'r Cynulliad 2011. Cynhaliwyd ymchwiliad i mewn i'r canlyniadau a arweiniodd at ail-strwythuro'r arweinyddiaeth.
Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol o etholiadau 2011, yn ogystal â chynyddu canran y bleidlais etholaethol a ranbarthol. Ar ôl yr etholiadau daeth Plaid Cymru yn wrthblaid swyddogol y Cynulliad.
Cipiodd Leanne Wood (arweinydd ar y pryd) sedd Rhondda oddi wrth Leighten Andrews (Llafur). Daeth hyn a syndod mawr i nifer gan gynnwys aelodau blaenllaw Llafur.[18] Yn ogystal daeth Plaid Cymru yn agos iawn i ennill Llanelli, Blaenau Gwent ac Aberconwy.
Rhoddwyd Leanne Wood ymlaen i bleidlais Prif Weinidog Cymru yn y Senedd yn erbyn Carwyn Jones. Pleidleisiwyd UKIP, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru dros Leanne. Roedd y bleidlais yn gyfartal, 29 yr un, roedd rhaid gohirio'r sesiwn gan arwain at drafodaethau at sut i ddatrys y llwyrglo.[19] Dewiswyd y blaid i beidio parhau gyda'r enwebiad gan dynnu nôl enw Leanne ar y papur.
Rhwng 2016 a 2020 mae dau aelod wedi dod yn annibynnol o Blaid Cymru, Neil McEvoy a Dafydd Elis-Thomas. Cafodd Dafydd Elis-Thomas lle clymbleidiol yn y Llywodraeth fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ac roedd Neil McEvoy yn eistedd fel aelod annibynnol cyn troi'n Welsh National Party.
Bonclust fwyaf yr etholiad i Blaid Cymru oedd colli Leanne Wood, gyda Llafur yn cipio'i sedd, gyda mwyafrif o 5,497. Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, "Ym mhob un cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur… mewn seddi oedd yn y fantol… mi gafodd Plaid Cymru ei chwalu yn llwyr".[20] Mewn darn yn y Barn dywedodd yr Athro Wyn Jones bod angen gwella perfformiad Plaid Cymru mewn tri rhan; cael gwared â’r rhaniadau, diwygio’r peiriant ymgyrchu a chael gonestrwydd mewnol.[21] Enillodd y Blaid Lafur 30 o'r 60 sedd, gan wneud yr etholiad hon y gorau erioed iddi. Collodd Plaid Cymru un Comisiynydd Heddlu yn y gogledd, yn dilyn ymddeoliad Arfon Jones, pan gollodd y blaid i Lafur.
O ran ystadegau, cyfafodd y Blaid un aelod yn fwy (13) nag yn etholiad 2016 (12), ond gostyngodd canran y pleidleisiau 20.3% (-2%).
Cyn etholiad cyffredinol 2019 cyhoeddodd Adam Price y byddai'n sefydlu comisiwn i edrych ar ymarferoldeb Annibyniaeth Cymru, a sut y byddai Llywodraeth Blaid Cymru yn cynnal refferendwm annibyniaeth.[22] Cyhoeddodd y comisiwn, dan arweiniad cyn Aelod Seneddol Plaid Dwyfor Meirionydd, Elfyn Llwyd, ei adroddiad ar 25 Medi 2020.[23] Mae'n argymell i Blaid Cymru 5 nod allweddol, gan gynnwys:[24]
Mae hefyd yn argymell y dylid cael un refferendwm amlddewis i fesur barn ac i berswadio llywodraeth San Steffan i gytuno i refferendwm ar yr opsiwn a ffefrir.[23] Cafodd yr adroddiad ei feirniadu gan y Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n gofyn am Prydain ffedral.[25]
Enw a llun | Swydd | Etholaeth | Nodiadau |
---|---|---|---|
Arweinydd y Blaid ac Arweinydd Grŵp y Senedd | Ynys Môn | Etholwyd heb gystadleuaeth yn Mehefin 2023[26] | |
Dafydd Wigley |
Llywydd Anrhydeddus Ers 2001 |
Cyn-Lywydd y Blaid Aelod o Dŷ'r Arglwyddi | |
Liz Saville Roberts |
Arweinydd Grŵp San Steffan |
AS Dwyfor Meirionnydd | |
Owen Roberts | Prif Weithredwr | Penodwyd yn 2023[27] |
Etholwyd Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru ar Fawrth 15fed 2012, gan guro Dafydd Elis Thomas ac Elin Jones. Seiliwyd ei hymgyrch ar y cysyniad o 'wir annibyniaeth'. Enillodd Ms Wood 55% o'r bleidlais a chafodd Ms Jones 41%. Wrth i'r Arglwydd Elis-Thomas gael ei guro yn y bleidlais gyntaf cafodd ei bleidleisiau eu trosglwyddo i'r ddwy oedd ar ôl. Wedi'r ail bleidlais cafodd Ms Wood 3,326 o bleidleisiau a Ms Jones 2,494[28].
Ers ei hetholiad fel arweinydd, cadwodd Plaid Cymru ei safle fel yr ail blaid mewn llywodraeth leol, gyda 171 o gynghorwyr, ac ail-enillwyd Ynys Môn i'r blaid yn y Cynulliad wedi ymddeoliad Ieuan Wyn Jones. Enillodd ymgeisydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth gyda'r mwyafrif uchaf yn y sedd honno ers datganoli, gyda 12,601 o bleidleisiau (58% o'r bleidlais), 9,166 mwy na'r ymgeisydd Llafur Tal Michael a gafodd 3,345 o bleidleisiau (16%), ar Awst 1af 2013[29].
Cafwyd her i arweinyddiaeth Leanne Wood yng Ngorffennaf 2018, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn sefyll i fod yna arweinydd newydd.[30]. Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[31]
Arweinydd | Cychwyn | Gorffen | |
---|---|---|---|
1 | Lewis Valentine | 1925 | 1926 |
2 | Saunders Lewis | 1926 | 1939 |
3 | John Edward Daniel | 1939 | 1943 |
4 | Abi Williams | 1943 | 1945 |
5 | Gwynfor Evans | 1945 | 1981 |
6 | Dafydd Wigley | 1981 | 1984 |
7 | Dafydd Elis-Thomas | 1984 | 1991 |
8 | Dafydd Wigley | 1991 | 2000 |
9 | Ieuan Wyn Jones | 2000 | 2012 |
10 | Leanne Wood | 2012 | 2018 |
11 | Adam Price | 2018 | 2023 |
12 | Llyr Gruffydd | Mai 2023 | Mehefin 2023 |
13 | Rhun ap Iorwerth | 2023 | presennol |
Cyn Brexit roedd gan Blaid Cymru un cynrychiolydd yn Senedd Ewrop, sef Jill Evans. Mae Plaid Cymru yn aelod o Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA).
Etholiad | Cymru | +/– | Llywodraeth | ||
---|---|---|---|---|---|
Pleidleisiau | % | Seddi | |||
1929 | 609 | 0.003 | 0 / 36
|
N/A | |
1931 | 2,050 | 0.2 | 0 / 36
|
N/A | |
1935 | 2,534 | 0.3 | 0 / 36
|
N/A | |
1945 | 16,017 | 1.2 | 0 / 36
|
N/A | |
1950 | 17,580 | 1.2 | 0 / 36
|
N/A | |
1951 | 10,920 | 0.7 | 0 / 36
|
N/A | |
1955 | 45,119 | 3.1 | 0 / 36
|
N/A | |
1959 | 77,571 | 5.2 | 0 / 36
|
N/A | |
1964 | 69,507 | 4.8 | 0 / 36
|
N/A | |
1966 | 61,071 | 4.3 | 0 / 36
|
N/A | |
1970 | 175,016 | 11.5 | 0 / 36
|
N/A | |
Chwe 1974 | 171,374 | 10.8 | 2 / 36
|
2 | Gwrthblaid |
Hyd 1974 | 166,321 | 10.8 | 3 / 36
|
1 | Gwrthblaid |
1979 | 132,544 | 8.1 | 2 / 36
|
1 | Gwrthblaid |
1983 | 125,309 | 7.8 | 2 / 38
|
Gwrthblaid | |
1987 | 123,599 | 7.3 | 3 / 38
|
1 | Gwrthblaid |
1992* | 156,796 | 9.0 | 4 / 38
|
1 | Gwrthblaid |
1997 | 161,030 | 9.9 | 4 / 40
|
Gwrthblaid | |
2001 | 195,893 | 14.3 | 4 / 40
|
Gwrthblaid | |
2005 | 174,838 | 12.6 | 3 / 40
|
1 | Gwrthblaid |
2010 | 165,394 | 11.3 | 3 / 40
|
Gwrthblaid | |
2015 | 181,694 | 12.1 | 3 / 40
|
Gwrthblaid | |
2017 | 164,466 | 10.4 | 4 / 40
|
1 | Gwrthblaid |
2019 | 153,265 | 9.9 | 4 / 40
|
Gwrthblaid | |
2024 | 194,811 | 14.8 | 4 / 32
|
Gwrthblaid |
*Cystadlwyd chwe sedd (Blaenau Gwent, Ceredigon & Gogledd Penfro, Islwyn, Sir Fynwy, Gorllewin Casnewydd a Torfaen) ar y cyd gyda'r Blaid Werdd
Etholiad | Etholaeth | Rhanbarth | Cyfanswm seddi | +/– | Llywodraeth | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Pleidleisiau | % | Seddi | Pleidleisiau | % | Seddi | ||||
1999 | 290,572 | 28.4 | 9 / 40
|
312,048 | 30.6 | 8 / 20
|
17 / 60
|
Gwrthblaid | |
2003 | 180,185 | 21.2 | 5 / 40
|
167,653 | 19.7 | 7 / 20
|
12 / 60
|
5 | Gwrthblaid |
2007 | 219,121 | 22.4 | 7 / 40
|
204,757 | 21.0 | 8 / 20
|
15 / 60
|
3 | Llafur–Plaid |
2011 | 182,907 | 19.3 | 5 / 40
|
169,799 | 17.9 | 6 / 20
|
11 / 60
|
4 | Gwrthblaid |
2016 | 209,376 | 20.5 | 6 / 40
|
211,548 | 20.8 | 6 / 20
|
12 / 60
|
1 | Gwrthblaid |
2021 | 225,376 | 20.3 | 5 / 40
|
230,161 | 20.7 | 8 / 20
|
13 / 60
|
1 | Gwrthblaid |
|journal=
(help)
|journal=
(help)
|