Plast

Plast
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
IdiolegUkrainian nationalism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1911 Edit this on Wikidata
GwladwriaethWcráin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.plast.org.ua Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorymdaith gan aelodau Plast, 1914
Aelod ifanc yn ffurfwisg Plast

Mudiad ieuenctid Wcreinaidd sy'n gysylltiedig â'r mudiad sgowtio yw Plast (Wcreineg: Пласт), neu Sefydliad Sgowtio Cenedlaethol Plast Wcráin (Пласт Національна Скаутська Організація України Plast Natsionalna Skautska Orhanizatsiia Ukrayiny) a roi ei enw llawn. Sefydlwyd ef gan Oleksander Tysovsky yn Lviv ym 1911 ar sail egwyddorion Syr Robert Baden-Powell, sefydlydd y Sgowtiaid. Yn ogystal â dysgu dulliau a sgiliau'r sgowtiaid a datblygu arweinyddiaeth, ei nod yw annog gwladgarwch i blant a phobl ifainc yn Wcráin ac ymhlith yr Wcreiniaid ar wasgar.

Sefydlwyd Plast yn y Gymnasiwm Academaidd yn Lviv, Awstria-Hwngari, gan Oleksander Tysovsky ym 1911. Mabwysiadwyd yr enw Plast, cyfeiriad at y plastuny, sgowtiaid milwrol a ddefnyddiwyd gan Gosaciaid Zaporizhzhia i ddilyn symudiadau'r gelyn yn y corstiroedd. Ymledodd y mudiad Plast ar draws Gorllewin Wcráin, ac ymaelodai nifer o sgowtiaid Plast hefyd â Lleng Reifflwyr y Sich Wcreinaidd, uned o Fyddin Awstria-Hwngari a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Tyfodd y mudiad yn sylweddol, yn bennaf yn Galisia (Halychyna), yn sgil cyhoeddi'r llawlyfr cyntaf am sgowtio yn yr Wcreineg, Zhyttia v Plasti (1921), dan olygyddiaeth Tysovsky. Oherwydd ei ethos gwladgarol, gwaharddwyd Plast gan yr awdurdodau yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl mewn ymgais i ostegu cenedlaetholdeb Wcreinaidd yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Cafodd yr arweinwyr eu harestio ac eiddo'r mudiad eu hatafael, gan droi Plast yn gudd-gymdeithas ym 1930.[1]

Wedi dechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, gyrrwyd Plast yn alltud a byddai'n goroesi fel mudiad ymhlith yr Wcreiniaid ar wasgar, er enghraifft yn Unol Daleithiau America, Canada, ac Awstralia. Gwaharddwyd y mudiad yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd.[2] Yn sgil annibyniaeth Wcráin ym 1991, adfywiwyd gweithgareddau Plast yn y wlad, a lleolir ei pencadlys bellach yn Kyiv.

Arwyddlun

[golygu | golygu cod]

Tryfer wedi ei phlethu â fflŵr-dy-lis yw arwyddlun Plast, sydd yn cyfuno arfbais Wcráin (tryzub, sêl Volodymyr Fawr) a symbol rhyngwladol y mudiad sgowtio. Siôr yw nawddsant y mudiad. Mae aelodau Plast yn cyfarch ei gilydd gyda'r arwyddair skob, acronym sydd yn golygu syl'no (yn gryf), krasno (yn hardd), oberezhno (yn ofalus), a bystro (yn gyflym), a chysylltir y rheiny â symbolau deilen y dderwen, swp o ffrwyth gwifwrnwydd y gors, madarchen, a mellten.[1]

Rhyfel Rwsia ar Wcráin 2022

[golygu | golygu cod]

Bu i'r mudiad golli aelodau yn ystod Rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022. Ymhlith y rhai a gollwyd oedd Derekh Vitaliy oedd yn hyfforddwr Plast, a newyddiadurwr. Bu iddo farw ar 28 Mai 2022 mewn brwydr yn ardal Bakhmut.[3]

Aelodau enwog

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 447.
  2. "Ukraine's Plast Scouting Tradition Revives". UATV English. 14 Ebrill 2019.
  3. "We have another painful loss in our organization. On 28 of May, during the battle in the Bakhmut district, Derekh Vitaliy passed away. He was a Plast instructor, a journalist, took part in the Revolution of Dignity, defended Ukraine after 24 of February. Rest In Peace, the hero". Twtter @Plast Ukrainian Scouting. 31 Mai 2022.