Rhaglen deledu realiti yw Popstars, a rhagflaenydd y gyfres Idol. Dechreuodd y gyfres yn Seland Newydd ym 1999 pan ffurfiodd y cynhyrchydd Jonathan Dowling grŵp o ferched o'r enw TrueBliss. Yna gwerthodd Dowling y fformat i Screentime yn Awstralia a werthodd y syniad i'r DU cyn i'r rhaglen fynd yn fyd-eang.
Gellir dadlau mai Girls Aloud o fersiwn y DU o'r sioe deledu yw'r grŵp mwyaf enwog a llwyddiannus i gael ei greu gan y rhaglen.