Enghraifft o: | nod masnach, brand bwyd |
---|---|
Math | stack of potato chips |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechrau/Sefydlu | 1968 |
Perchennog | Kellanova |
Gwneuthurwr | Kellanova |
Pencadlys | Unol Daleithiau America |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.pringles.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Pringles yn frand Americanaidd o creision stacadwy wedi'w wneud o datws a gwenith. Fe'i datblygwyd yn wreiddiol gan Procter & Gamble (P&G) ym 1967 ac fe'i marchnatawyd fel "Pringle's Newfangled Potato Chips", gwerthwyd y brand i Kellogg's yn 2012. O 2011 gwerthir Pringles mewn mwy na 140 o wledydd, . Yn 2012, Pringles oedd y pedwerydd brand byrbrydau mwyaf poblogaidd ar ôl Lay's, Doritos a Cheetos (oll wedi'u cynhyrchu gan Frito-Lay ), gyda 2.2% o gyfran y farchnad yn fyd-eang.[1]
Ym 1956, rhoddodd Procter & Gamble (P&G) dasg i fferyllydd Fredric Baur i ddatblygu math newydd o creision i fynd i'r afael â chwynion prynwyr am creision seimllyd, a stale, a wedi'u torri, ynghyd ag aer yn y bagiau.[2] Treuliodd Fredric Baur 2 flynedd yn datblygu creision cyfrwy o does wedi'i ffrio a dyfeisiodd y gall y tiwbaidd fel y cynhwysydd creision. Fodd bynnag, ni allai weithio allan sut i wneud i'r creision flasu'n dda ac yn y pen draw cafodd ei dynnu o'r dasg i weithio ar frand arall. Yng nghanol y 1960au, ailddechreuodd ymchwilydd P&G arall, Alexander Liepa o Montgomery, Ohio, waith Fredric Baur a llwyddodd i wella blas y cresision.[3] Er mai Fredric Baur oedd gwir ddyfeisiwr creision Pringles, enw Liepa sydd ar y patent.[4] Datblygodd Gene Wolfe, peiriannydd mecanyddol sy'n adnabyddus am nofelau ffuglen wyddonol a ffantasi, y peiriant sy'n eu coginio.[5]
Mae siâp cyson y cyfrwy yn cael ei adnabod yn fathemategol fel paraboloid hyperbolig .[6] Dywedwyd bod eu dylunwyr wedi defnyddio uwchgyfrifiaduron i sicrhau y byddai aerodynameg y sglodion yn eu cadw yn eu lle yn ystod pecynnu.[7][8]
Dechreuodd P&G werthu Pringles ym 1967 a cafodd eu dosbarthu'n genedlaethol ledled yr Unol Daleithiau erbyn 1975, ac yn rhyngwladol erbyn 1991.[9]
O 2015 ymlaen, mae yna 5 ffatri Pringles ledled y byd: yn Jackson, Tennessee ; Mechelen, Gwlad Belg ; Johor, Malaysia ; Kutno, Gwlad Pwyl;[10] a Fujian, Tsieina .[11]
Mae gan Pringles tua 42% o gynnwys tatws, mae'r gweddill yn startsh gwenith a blawd (tatws, ŷd, a reis) ynghyd ag olew llysiau, emulsifier, halen, a sesnin arll.[12] Gall cynhwysion eraill gynnwys melysyddion fel maltodextrin a dextrose, glutamad monosodiwm (MSG), disodiwm inosinate, disodium guanylate, casinad sodiwm, startsh bwyd wedi'i addasu, monoglyseride a diglyserid, dyfyniad burum wedi'i lamineiddio, blasau naturiol ac artiffisial, blawd haidd wedi'i falu, bran gwenith, ffa du sych, hufen sur, caws cheddar, ac ati; Mae amrywiaethau pringles yn amrywio yn eu cynhwysion.[13]
Mae un can 37g o Pringles (blas gwreiddiol) yn cynnwys 200 o galorïau, 3.5g o fraster dirlawn, 200 mg o sodiwm, 150 mg o botasiwm a 2g o brotein.[14]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)