Math | priordy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Crucornau |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 239.5 metr |
Cyfesurynnau | 51.9448°N 3.03647°W, 51.94494°N 3.036399°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM004 |
Priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau, Sir Fynwy, Cymru, yw Priordy Llanddewi Nant Hodni. Saif yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy, 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni ar ffordd fynydd sy'n arwain i Gapel-y-ffin a'r Gelli Gandryll, yn Nyffryn Ewias.
Cyn sefydlu'r priordy roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel clas Cymreig Llanddewi Nant Hodni, yn ardal Ewias. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r priordy newydd yn 1188 ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. Roedd y feudwyfa yn eiddo i'r arglwydd Normanaidd William de Lacy, o deulu Lacy, arglwyddi Ewias Lacy. Yn 1118 sefydlodd ganondy i'r Canoniaid Awstinaidd yma, y cyntaf yng Nghymru.
Ad-feddiannwyd yr ardal gan y Cymry yn 1135, ac aeth rhai o'r canoniaid nad oeddynt yn Gymry i sefydlu canondy newydd, Llanthony Secunda, ger Caerloyw. Parhaodd teulu de Lacy i ariannu'r sefydliad gwreiddiol, ac adeiladwyd eglwys fawr i'r priordy yn 1217. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd daeth clafdy'r priordy yn eglwys y plwyf; mae eglwys y priordy ei hun yn adfail.