Rómulo Gallegos | |
---|---|
Ganwyd | 2 Awst 1884 Caracas |
Bu farw | 7 Ebrill 1969, 5 Ebrill 1969 Caracas |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, nofelydd, newyddiadurwr |
Swydd | senator for life, member of the Chamber of Deputies of Venezuela, Arlywydd Feneswela |
Arddull | nofel |
Plaid Wleidyddol | Democratic Action |
Gwobr/au | Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico |
llofnod | |
Nofelydd Sbaeneg a gwleidydd o Feneswela oedd Rómulo Gallegos Freire (2 Awst 1884 – 5 Ebrill 1969) sy'n nodedig am ei nofel Doña Bárbara (1929) ac am ei gyfnod yn Arlywydd Feneswela yn 1948.
Ganwyd Gallegos yn Caracas. Yn 1909 sefydlodd gylchgrawn o'r enw La Alborada. Gweithiodd yn athro ysgol uwchradd yn y 1920au.[1]
Enillodd gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae ei weithiau yn portreadu cymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad y wlad, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad. Ymhlith ei nofelau eraill mae Cantaclaro (1934), Canaima (1935), Pobre negro (1937), El forastero (1942), Sobre la misma tierra (1943), La rebelión, y otros cuentos (1947), a La brizna de paja en el viento (1952).
Aeth Gallegos i Sbaen yn alltud o lywodraeth yr Arlywydd Juan Vicente Gómez yn y cyfnod 1931–35. Dychwelodd i Feneswela ac yn 1936 cychwynnodd Gallegos ar ei yrfa wleidyddol. Gwasanaethodd yn Gyngreswr, yn Faer Caracas, ac yn weinidog addysg cyn iddo gael ei ethol yn arlywydd y wlad yn 1947. Dechreuodd ei arlywyddiaeth yn Chwefror 1948, a fe'i disodlwyd wedi naw mis mewn coup milwrol, a chafodd ei alltudio i Fecsico. Dychwelodd i Feneswela yn 1958, a fe'i etholwyd yn seneddwr am oes. Bu farw yn Caracas yn 84 oed.[2]