Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Rachel Sarah James |
Dyddiad geni | 30 Awst 1988 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac a ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Sprint/Cyffredinol |
Golygwyd ddiwethaf ar 11 Awst 2016 |
Seiclwraig Cymreig yw Rachel Sarah James (ganwyd 30 Awst 1988).
Mae'n ferch i David James a Christine Harris,[1] ac mae ganddi dair chwaer iau, Becky, sydd yn bencampwraig y byd,[2] Ffion a Megan, a brawd, Gareth, ac maent i gyd yn seiclwyr brwd. Mae Ffion yn aelod o dîm cenedlaethol beicio mynydd Prydain.[3]
Yn 2013, daeth James yn beilot ar y tandem ar gyfer y para-seiclwraig Sophie Thornhill.[4] Enillodd y pâr fedal aur a gosod record y byd ym Mhencampwriaethau Para-seiclo Trac y Byd, UCI 2014 yn Aguascalientes, yn y treial amser 1 km, a hynny yn eu cystadlaeuaeth cyntaf ryngwladol.[5] Enillont hefyd fedal aur yn y sbrint tandem.[6]
Cynrychiolodd James Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014[7] fel peilot ar gyfer y cyn-nofwraig paralympaidd Rhiannon Henry.[8] Ymunodd James gyda Thornhill unwaith eto i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain ym mis Medi 2014, gan ennill y treial amser cymysg[9] a'r treial amser 200m, cychwyn hededog ar gyfer reidwyr dall ac â nam ar eu golwg.[10] Yn ogystal, cipiodd y fedal efydd yn y sbrint tîm ynghŷd â Helen Scott.[11]