Rachel Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 20 Medi 1927 Llanelli |
Bu farw | 26 Tachwedd 1980 o gorddos o gyffuriau Hollywood |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm |
Tad | Richard Rhys Roberts |
Priod | Rex Harrison, Alan Dobie, Rex Harrison |
Gwobr/au | Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau |
Actores o Gymraes oedd Rachel Roberts (20 Medi 1927 – 26 Tachwedd 1980).
Cafodd ei geni yn Llanelli, yn ferch i weinidog gyda'r Bedyddwyr. Gwrthryfelodd yn erbyn ei thad yn ifanc. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna yn RADA. Gwnaeth ei marc fel actores pan gymerodd ran yn y ffilm Saturday Night and Sunday Morning. Priododd Alan Dobie (1955–1961) yn gyntaf ac yna rhwng 1962 a 1971 bu'n briod i'r actor Rex Harrison. Wedi ei phriodas i Harrison cafodd iselder meddwl, gan na fedrai gael plant na rhan actio.
Derbyniodd Wobr yr Academi Ffilm Prydeinig am ei rhan yn actio Brenda yn ffilm Karel Reisz Saturday Night and Sunday Morning (1960).[1] Ac am ei rôl fel Mrs Hammond yn This Sporting Life (1963), derbyniodd BAFTA ac enwebwyd hi am Oscar.
Cyflawnodd hunanladdiad yn ei chartref yn Los Angeles ar 26 Tachwedd 1980 drwy lyncu cemegolion a chyffuriau.[2]