Mae Ranfurly yn dref yn Otago, ar Ynys y De, Seland Newydd. Mae’n 11o cilomedr i’r gogledd o Dunedin ar wastatir Maniototo, tua 430 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae’r dref yn gwasanaethu’r gomuned leol o ffermwyr. Hen enw’r dref oedd Eweburn. Mae’r enw modern yn coffáu Uchter Knox, pumed Iarll o Ranfurly, llywodraethwr Seland Newydd rhwng 1897 a 1904. Mae’r dref yn nodweddiadol am ei hadeiladau Art Deco.[1]
Darganfuwyd aur yn yr ardal yn ystod yr 1860au, yn bennaf yn Kyeburn a Naseby.[2]> Tyfodd Ranfurly ar ôl cyrhaeddiad Rheilffordd Otago Canolog ym 1898. Caewyd y rheilffordd ym 1989, a daeth yn llwybr i deithwyr a beicwyr, y Llwybr Cledrau Otago Canolog, yn denu twristiaid. Daeth yr orsaf yn amgueddfa a chanolfan arddangos. Daeth Ranfurly’n ganolpwynt i’r ardal a thyfodd yn y 1930au. Mae nifer o adeiladu Art Deco yn y dref. Defnyddiwyd dyffryn Ida gerllaw yn filmiau “Lord of the Rings”.
Roedd gan Ranfurly poblogaeth o 726 yn 2018. Roedd 91.3% yn bobl ewropeaidd, 1.2% bobl o’r Môr Tawel,12.8% Māori, 3.3% Asiaidd a 0.4% eraill. Doedd gan 43.4% ddim crefydd, 48.8 yn gristion, 0.4% hindw a 0.8 o grefyddau eraill.
Mae Cwrlo’n boblogaidd yn yr ardal ac ma’r clwb lleol wedi cynrychioli Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y byd sawl gwaith, ac mae aelodau’r clwb wedi cynrychioli Seland Newydd yn y Gemau Olympaidd.