Ray Tomlinson | |
---|---|
Ganwyd | Raymond Samuel Tomlinson 23 Ebrill 1941 Amsterdam |
Bu farw | 5 Mawrth 2016 o trawiad ar y galon Lincoln |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rhaglennwr, dyfeisiwr, dyfeisiwr patent, gwyddonydd cyfrifiadurol, cynllunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | e-bost, TENEX, symbol at |
Gwobr/au | Gwobr Tywysoges Asturias am Umchwyl Technegol a Gwyddonol, Eduard-Rhein Cultural Award, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Gwobr Rhyngrwyd yr IEEE |
Gwefan | http://openmap.bbn.com/~tomlinso/ray/home.html |
Rhaglennwr o'r Unol Daleithiau oedd Raymond Samuel Tomlinson (23 Ebrill 1941 – 5 Mawrth 2016) a ddatblygodd y system E-bost cyntaf ar rwydwaith yr ARPAnet, rhagflaenydd y Rhyngrwyd, yn 1971.[1] Hwn oedd y system gyntaf oedd yn gallu danfon negeseuon rhwng defnyddwyr ar gyfrifiaduron gwahanol wedi eu cysylltu gyda'r ARPAnet. (Cyn hynny, roedd hi'n bosib danfon e-bost i ddefnyddwyr ar yr un cyfrifiadur yn unig). I gyflawni hyn, defnyddiodd y symbol @ i wahanu'r defnyddiwr o enw'r peiriant, ac mae wedi ei ddefnyddio mewn cyfeiriadau e-bost byth ers hynny.[2] Mae Oriel Enwogion y Rhyngrwyd yn adrodd hanes ei waith ac mae'n dweud "Fe wnaeth rhaglen e-bost Tomlinson ddechrau chwyldro llwyr, gan newid yn sylfaenol y ffordd mae pobl yn cyfathrebu.[1]
Ganwyd Tomlinson yn Amsterdam, Efrog Newydd, ond symudodd ei deulu yn fuan i bentref bach Vail Mills, Efrog Newydd. Mynychodd ysgol Broadalbin Central yn nhref gyfagos Broadalbin, Efrog Newydd. Yn ddiweddarach aeth i Rensselaer Polytechnic Institute yn Troy, Efrog Newydd lle cymerodd ran mewn rhaglen gydweithredol gydag IBM. Derbyniodd radd Bagloriaeth mewn Gwyddoniaeth mewn peirianneg trydanol gan RPI yn 1963.
Ar ôl graddio o RPI, aeth i Massachusetts Institute of Technology i barhau ei addysg beirianneg drydanol. Yn MIT, gweithiodd Tomlinson yn y Grŵp Cyfathrebu Lleferydd a datblygodd syntheseinydd llais analog-digidol fel rhan o'i ymchwil Meistr. Derbyniodd radd Meistr yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Drydanol yn 1965.
Yn 1967, ymunodd a'r cwmni technoleg Bolt, Beranek and Newman, nawr yn BBN Technologies, lle cyfrannodd at ddatblygiad y system weithredu TENEX yn cynnwys y systemau 'ARPANET Network Control Program' a 'TELNET'. Ysgrifennodd raglen trosglwyddo ffeiliau o'r enw CPYNET i drosglwyddo ffeiliau ar yr ARPANET. Gofynnwyd i Tomlinson newid rhaglen o'r enw SNDMSG, oedd yn danfon negeseuon i ddefnyddwyr eraill ar gyfrifiadur rhannu-amser, i redeg ar TENEX. Ychwanegodd god a gymerodd o CPYNET i SNDMSG fel bod negeseuon yn gallu cael eu danfon i ddefnyddwyr ar gyfrifiadurol arall - a felly yn 1971 danfonodd yr e-bost cyntaf ar draws rhwydwaith.
Bu farw Tomlinson ar fore Sadwrn, 5 Mawrth 2016 yn 74 mlwydd oed.[3]
Yr e-bost cyntaf ddanfonodd Tomlinson oedd e-bost brawf. Ni chadwyd yr e-bost ond dywedodd Tomlinson ei fod yn ddibwys, rhywbeth fel "QWERTYUIOP". Mae hyn yn cael ei cham-ddyfynnu yn aml fel "Yr e-bost cyntaf oedd QWERTYUIOP".[4] Yn ddiweddarach, dywedodd Tomlinson fod y negeseuon prawf yma yn "gwbl anghofiadwy, a felly rwy wedi ei anghofio nhw."[5]
I ddechrau, doedd ei system negesu e-bost ddim yn cael ei ystyried yn beth pwysig o gwbl. Pan ddangosodd Tomlinson y gwaith i'w gyd-weithiwr Jerry Burchfiel, dywedodd Tomlinson "Paid dweud wrth neb! Nid dyma beth rydyn ni i fod i weithio arno." [6]