Rhianon Passmore AS | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru dros Islwyn | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Gwyn R Price |
Mwyafrif | 5,106 |
Manylion personol | |
Ganwyd | Gorffennaf 1972 (52 oed) |
Plaid wleidyddol | Y Blaid Lafur Cyd-weithredol |
Gwleidydd Llafur Cymreig yw Rhianon Passmore (ganwyd Gorffennaf 1972). Mae'n Aelod o'r Senedd dros Islwyn ers mis Mai 2016.[1]
Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddwyd bod Passmore wedi ei dewis fel yr ymgeisydd Llafur yn etholaeth Islwyn yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[2] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod o'r Cynulliad gyda 10,050 o bleidleisiau (45.0% o'r pleidleisiau a fwriwyd).[1]