Rhydderch Hael | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Ystrad Clud |
Bu farw | 614 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | list of kings of Strathclyde |
Tad | Tudwal Tudclyd |
Plant | Cystennin, brenin Ystrad Clud |
Brenin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd oedd Rhydderch Hael, hefyd Rhydderch Hen (bu farw tua 614). Roedd yn fab i'r brenin Tudwal Tudclyd, ŵyr Dyfnwal Hen. Rheolai o gaer Allt Clud (ger Dumbarton yng nghanolbarth yr Alban).
Yn Achau'r Saeson ceir cofnod amdano'n ymladd gyda Urien Rheged, Gwallawg, a Morgan yn erbyn Hussa, brenin Northumbria tua 590. Ceir cyfeiriad ato hefyd gan Adamnan yn ei waith Buchedd Colum Cille, lle dywed ei fod yn gyfaill i Colum Cille. Yn ôl Buchedd Cyndeyrn bu ef a Sant Cyndeyrn farw yr un flwyddyn. Ceir cyfeiriad ato yn Bonedd Gwŷr y Gogledd hefyd.
Yn ddiweddarch ceir cyfeiriadau ato yn y chwedlau ynghylch Myrddin a geir yng ngherddi Llyfr Du Caerfyrddin. Dywedir mai ef oedd yn fuddugol ym Mrwydr Arfderydd yn erbyn Gwenddoleu fab Ceidio. Yn y Trioedd ceir cyfeiriad at anrheithio ei lys gan Aiddan (Áedán mac Gabráin), brenin Dál Riata.