Richard Green-Price | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1803 |
Bu farw | 11 Awst 1887 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | George Green |
Mam | Margaret Price |
Priod | Frances Milborough Dansey, Laura King |
Plant | Constance Mary Green-Price, Sir Richard Dansey Green-Price, 2nd Bt., Edith Mary Green-Price, Fanny Laura Green-Price, Henrietta Margaret Green-Price, Milburga Price Green-Price, Laura Green-Price, Alice Mildred Green-Price, Herbert Chase Green-Price, Francis Richard Green-Price, Alfred Edward Green-Price, George William Whitmore Green-Price |
Roedd Syr Richard Green Price, barwnig 1af (18 Hydref 1803 − 11 Awst 1887) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistref a Sir Faesyfed.
Ganwyd Price yn Canon Bridge, Swydd Henffordd, yn ail fab i George Green, a Margaret, merch Richard Price, Norton Manor, Trefyclo.
Ym 1808 symudodd y teulu Green i fyw i Drefyclo.
Brawd Mrs Margaret Green oedd Richard Price AS Bwrdeistref Maesyfed 1798-1846, pan fu farw ef ym 1861 etifeddodd George, brawd hŷn Richard, ei ystâd. Ar farwolaeth George ym 1874 aeth yr ystâd i Richard a mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol Price yn ôl telerau ewyllys ei ewythr.
Bu'n briod ddwywaith. Ym 1837 priododd Frances Melbrough Dansey merch D R Dansey, Henffordd; bu iddynt fab a merch a fu byw; bu hi farw ym 1842. Ym 1844 priododd Laura, merch Dr R H King, Mortlake, Surrey, bu iddynt bedwar mab a chwe merch.[1] Priododd Edith, un o'i ferched, a Syr Powlwett Milbank AS Sir Faesyfed 1895-1900.
Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Richard Green ei brentisio fel cyfreithiwr yng Nghaerwrangon. Wedi gyflawni ei erthyglau a chymhwyso fel cyfreithiwr symudodd Green yn ôl i Drefyclo i sefydlu cwmni cyfreithiol Green and Peters. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr cefn gwlad, gwelodd Green cyfleon busnes i wella Drefyclo er budd corfforaethau ac unigolion, gan gynnwys ef ei hun.
Ym 1850 daeth yn drysorydd Sir Faesyfed. Ym 1853 daeth yn aelod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Maesyfed a sefydlwyd i sicrhau dŵr glan a charthffosiaeth i'r sir, bu'n weithgar i sicrhau buddsoddiadau byddai'n cysylltu Sir Faesyfed a'r rhwydwaith rheilffordd ac i fuddsoddi mewn siopau a busnesau eraill yn Nhrefyclo a'r sir gan gynnwys troi Llandrindod i Llandrindod Wells, cyrchfan i ymwelwyr Fictoraidd oedd am dderbyn les iachusol y dŵr lleol.[2]
Trwy ei etifeddiaeth a'i fuddsoddiadau daeth yn berchennog ar ystâd oedd yn cynhyrchu elw iddo o tua £8 mil y flwyddyn erbyn 1863 (ffortiwn ar y pryd, gwerth tua £7 miliwn o gymharu statws ffortiwn ym 1863 a'r statws cyffelyb yn 2014)[3]