Richard Hakluyt | |
---|---|
Ganwyd | 1552 Henffordd |
Bu farw | 23 Tachwedd 1616, 1616 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr, Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | daearyddwr, llenor, cyfieithydd, diplomydd, hanesydd, rhyddieithwr, offeiriad, ymgynghorydd gwyddonol |
Swydd | caplan, archddiacon |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Principall Navigations, Voiages, Traffiques and Discoueries of the English Nation |
Mudiad | Dyneiddiaeth y Dadeni |
Tad | Richard Hakluyt |
llofnod | |
Daearyddwr ac hanesydd o Loegr yn Oes Elisabeth oedd Richard Hakluyt (tua 1552 – 23 Tachwedd 1616). O ganlyniad i'w ysgrifeniadau helaeth a'i ddylanwad gwleidyddol, roedd yn un o Saeson pwysicaf Oes Aur Fforio, er nad oedd yn fforiwr ei hunan. Efe oedd y lladmerydd amlycaf dros ehangu nerth economaidd Teyrnas Lloegr a'i phresenoldeb tramor, ac yn groniclydd medrus a gofnododd holl hanes fforio'r Saeson yn y Byd Newydd yn ei gampwaith The principall Navigations, Voiages and Discoveries of the English nation.
Ganwyd yn Henffordd, neu o bosib yn Llundain, yn fab i werthwr crwyn a oedd yn berchen ar eiddo yn Eyton, Swydd Henffordd. Er i'w gyfenw ymddangos yn Iseldireg, roedd y teulu o darddiad Cymreig ac wedi ei sefydlu yn y Mers ers oesoedd. Bu farw ei dad a'i fam pan oedd yn 5 oed, a daeth dan warchodaeth ei gefnder, cyfreithiwr a oedd hefyd o'r enw Richard Hakluyt.[1][2]
Mynychodd Ysgol Westminster cyn iddo ennill ysgoloriaeth i Eglwys Crist, Rhydychen yn 1570. Ymddiddorai yn naearyddiaeth ac hanesion y fforwyr ers iddo ymweld â'r Deml Ganol gyda'i gefnder yn ei arddegau. Roedd y Richard Hakluyt hynaf yn arbenigo mewn masnach dramor ac yn gyfeillgar â nifer o farsiandwyr, mapwyr, a fforwyr yr oes, a disgrifiodd i'w gefnder iau yr holl ddarganfyddiadau diweddar, y llwybrau masnach newydd, a'r datblygiadau mewn byd-ddarlunio. Yn Rhydychen fe fanteisiodd ar lyfrgelloedd a chasgliadau mapiau'r brifysgol i ddysgu popeth oedd i wybod am fforio.[3] Derbyniodd ei radd baglor o Rydychen yn 1574 a'i radd meistr yn 1577.[2]
Yn 1578 fe'i ordeiniwyd yn Eglwys Loegr, ac er iddo weinidogaethu fe barhaodd i ddilyn y newyddion diweddaraf o'r Byd Newydd. Bu hefyd yn darlithio ym Mhrifysgol Rhydychen yn y cyfnod 1577–82/83, gan arddangos mapiau ac atlasau glôb i'r myfyrwyr, ac efe oedd yr athro cyntaf i addysgu daearyddiaeth yn y brifysgol honno.[4] Daeth yn gyfeillgar â chapteiniaid llongau, masnachwyr, a morwyr amlycaf Lloegr, gan gynnwys Syr Humphrey Gilbert a Martin Frobisher a oedd yn chwilio am Dramwyfa'r Gogledd-Orllewin, hynny yw môr-lwybr o Ewrop i Asia drwy Gefnfor yr Arctig, i ogledd cyfandir yr Amerig. Ymhlith ei ohebiaethau oedd y mapwyr o Fflandrys Abraham Ortelius a Gerardus Mercator.[3]
Cyhoeddodd ei bamffled cyntaf yn 1579–80, ac ynddo mae'n argymell bod Lloegr yn gwladychu Culfor Magellan ym mhen pellaf De America er mwyn rheoli'r llwybrau masnach rhwng India'r Dwyrain ac India'r Gorllewin a sefydlu cadarnleoedd a maes dylanwad yn y Byd Newydd i wrthsefyll nerth ymerodraethau Sbaen a Phortiwgal.[4] Dadleuodd Hakluyt yn gyhoeddus o blaid rhagor o fforio a gwladychu, a chysylltodd â dynion blaenllaw y llywodraeth, megis yr Arglwydd Burghley, Syr Francis Walsingham, a Syr Robert Cecil, i ymofyn am ganiatâd a chymorth y Goron at y diben hwnnw. Cred y gallai Lloegr hawlio tir yng Ngogledd America ar sail darganfyddiadau John a Sebastian Cabot, ac eglurodd yn gyson y cyfleoedd economaidd oedd i gael er lles y genedl drwy sefydlu gwladfeydd ar ochr draw'r Iwerydd. Gosodai'r syniadau hyn yn gyntaf yn ei raglith i gyfieithiad John Florio o hanes mordaith Jacques Cartier i Ganada (1580). Ymhelaethodd Hakluyt ar ei ddadleuon, gan gynnwys yr angen am addysg fordwyo, yn ei waith pwysig cyntaf, Divers voyages touching the discouerie of America (1582).[3]
Yn 1583 anfonwyd Hakluyt i Baris gan Walsingham, i fod yn gaplan ac ysgrifennydd i Syr Edward Stafford, llysgennad Lloegr i Ffrainc. O fewn ei orchwyl hefyd oedd ysbïo ar ymdrechion gan fforwyr a chwmnïau Ffrengig i wladychu Gogledd America. Casglodd gwybodaeth ar fasnach grwyn a ffwr yng Nghanada a mentrau tramor eraill y Ffrancod. Yn ystod ei gyfnod yn Ffrainc, ysgrifennodd adroddiad cyfrinachol o blaid ymdrechion Walter Raleigh i wladychu Virginia, The Discourse on the Western Planting (1584) a'r angen i ddanfon ffermwyr a chrefftwyr o Loegr i'r trefedigaethau Americanaidd. Cyflwynwyd y gwaith i'r Frenhines Elisabeth, ac er iddi wobrwyo Hakluyt gyda chyflog eglwysig arbennig (prebend) o Eglwys Gadeiriol Bryste, ni derbyniodd Raleigh unrhyw gymorth gan y Goron. Ym Mharis hefyd golygydd Hakluyt argraffiad o De Orbe Novoof Pietro Martire, hanes y Sbaenwyr yn y Byd Newydd.[3]
Dychwelodd Hakluyt i Lundain yn 1588. Amharwyd ar allu'r Saeson i fforio ar ddiwedd yr 16g o ganlyniad i Ryfel Lloegr a Sbaen (1585–1604), felly trodd Hakluyt at ysgrifennu hanes cynhwysfawr o fforwyr Lloegr a'u darganfyddiadau: The principall Navigations, Voiages and Discoveries of the English Nation. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf, mewn un gyfrol, yn 1589. Ffrwyth ei gyfweliadau â channoedd o forwyr ynghyd â'r nifer enfawr o ddyddiaduron, llythyrau, a ffynonellau eraill a gesglid ganddo ydy The principall Navigations. Cyhoeddwyd ail argraffiad estynedig The principall Navigations mewn tair cyfrol o 1598 i 1600. Ystyriodd yr hanesydd a llenor J. A. Froude y campwaith hwn yn "arwrgerdd ryddiaith cenedl fodern y Saeson" gan ei fod yn cyfuno hanes, straeon antur a dewrder, a dadleuon diplomyddol ac economaid dros sofraniaeth Lloegr ar y môr a hawliau'r wlad yn y Byd Newydd.[4]
Tua'r amser y dychwelodd Hakluyt i Lundain, priododd Duglesse Cavendish, un o berthnasau'r amfordwywr Thomas Cavendish, a chafodd ei benodi i weinidogaethu plwyf Wetheringsett yn Suffolk. Bu farw ei wraig yn 1597.[3]
Ar droad y ganrif cafodd ei roddi prebend yn Westminster gan Elisabeth fel bod modd iddo aros yn agos i gynghori'r Frenhines a'i gweinidogion ar faterion trefedigaethol. Erfynodd ar y Goron yn 1606 i ddyroddi breintlythyrau er gwladychu Virginia, ac ystyriodd Hakluyt ei hunan deithio i Jamestown fel aelod o Gwmni Virginia. Cynghorodd Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain yn nyddiau cynnar y fenter honno, ac ymunodd â Chwmni Tramwyfa'r Gogledd-Orllewin yn 1612 i hyrwyddo'r chwilfa am fôr-lwybrau oedd yn osgoi'r dyfroedd ym meddiant y Sbaenwyr.
Yng nghyfnod diweddaraf ei fywyd, cyfieithodd rhagor o weithiau gan gynnwys Discoveries of the World (1601) gan Antonio Galvão a Virginia Richly Valued gan Hernando de Soto (1609). Bu farw yn Llundain, oddeutu 64 oed, a fe'i cleddir yn Abaty Westminster. Cyhoeddwyd rhai o lawysgrifau Hakluyt wedi ei farwolaeth yn rhan o Hakluytus Posthumus or Purchas his Pilgrimes (1625), dan olygyddiaeth ei edmygwr Samuel Purchas.