Robert Minhinnick | |
---|---|
Ganwyd | 1952 Castell-nedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Gwobr/au | Gwobr Cholmondeley, Gwobr Eric Gregory |
Bardd ac amgylcheddwr Cymreig yw Robert Minhinnick (ganwyd 1952). Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd a mynychodd Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae bellach yn byw ym Mhorthcawl. Mynychodd Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Caerdydd.
Derbyniodd Wobr Teithio John Morgan am ei lên yn 1990. Cafodd ei lyfr Watching the Fire Eater ei enwi'n Llyfr y Flwyddyn ym 1993.[1] Ef oedd golygydd Poetry Wales rhwng 1998 a 2008, a daeth y cylchgrawn yn adnabyddedig yn ryngwladol o dan ei arweiniad.[2]
Sefydlodd Minhinnick Cyfeillion y Ddaear Cymru a Sustainable Wales.[1] Cefnogodd ymgyrch CND Cymru yn 2007 i beidio ag adnewyddu Trident.[3]
Enillodd wobrau Gregory a Cholmondeley am ei farddoniaeth, yn ogystal â dwy wobr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a dwy Wobr Forward am y Gerdd Orau ar gyfer Twenty Five Laments for Iraq and The Fox in the National Museum of Wales.[1]