Robin Llwyd ab Owain | |
---|---|
![]() | |
Llais | Robin Owain Llais cy.ogg ![]() |
Ganwyd | Mehefin 1958 ![]() Cynwyd ![]() |
Man preswyl | Rhuthun ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, llenor, cyhoeddwr, Wicipediwr ![]() |
Tad | Owain Owain ![]() |
Gwobr/au | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ![]() |
Bardd ac Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 yw Robin Llwyd ab Owain (ganwyd Mehefin 1958; enw barddol: Robin Llwyd). Ysgrifennodd yr awdl Merch Ein Amserau mewn dull modern ac yn ôl un o'r beirniad Eirian Davies yn ei feirniadaeth yn y cyfansoddiadau, roedd yr awdl yn "torri tir newydd".
Mae o hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon e.e. Pedair Oed (Rhys Meirion) a Brenin y Sêr (Bryn Terfel). Ysgrifennodd sgript a geiriau caneuon y dramâu cerdd Ceidwad y Gannwyll (1985), Rhys a Meinir (1987), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).[1]
Nid yw wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwyd Rebel ar y We ar y we fyd-eang yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.[2][3] Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y 22 Mai 2006 i 'Rhedeg ar Wydr'.[4]
Bu'n brifathro am gyfnod o tua 15 mlynedd.
Ar 1 Gorffennaf 2013, apwyntiwyd Robin yn Reolwr cyntaf i Gymru gan Wikimedia UK a Wici Cymru.[5][6] Mae ei rôl yn bwriadu ehangu y Wicipedia Cymraeg a deunydd Cymreig ar y Wicipedia Saesneg. Fel rhan o'r cynllun hwn, cyfrannodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ariannol at hyfforddi olygyddion newydd.[6] Wrth siarad am apwyntiad Robi, dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK: "Mae apwyntiad Robin fel Rheolwr Cymru yn rhan hanfodol o'n strategaeth allgymorth. Y Wicipedia Cymraeg yw'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd a rydym yn falch o gefnogi'r Gymraeg."[5]